Gwen Rice, oedd yn arfer cyfieithu ar gyfer Prifysgol Cymru, a fyddai'n debyg o wybod yr atebion ynghylch termau prifysgolion. Ffoniodd yn weddol ddiweddar i ddweud ei bod hi'n symud i (dw i'n meddwl) Brifysgol Caerdydd ac addawodd e-bostio er mwyn imi gael ei chyfeiriad e-bost - ond wnaeth hi ddim! Dywedodd bryd hynny ei bod hi mor brysur fel nad oedd hi ar y pryd yn derbyn/darllen holl negeseuon Welsh-Termau-Cymraeg mwyach. Mae'n siwr bod rhywun yn medru rhoi ei chyfeiriad i Elin, neu fe ellid chwilio amdani ar safle'r Brifysgol. Ann ----- Original Message ----- From: Elin Meek To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, September 14, 2004 12:41 PM Subject: QAA Beth yw'r arfer - ei adael fel y mae? (maes prifysgolion) Llawer o ddiolch Elin