'Rwyf wedi anfon dwy neges at y grwp heddiw, cyn yr un ynghylch "Smart Cards" - un yn ddibwys erbyn hyn, a'r llall yn cymeradwyo'r gair "climach". Mae un heb gyrraedd, ac nid yw'r llall hyd yn oed yn ymddangos yn "Sent Items"! Pam tybed?! Ann ----- Original Message ----- From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, September 14, 2004 4:10 PM Subject: Re: geek > Wela i ddim o'i le ar 'gîc', 'giciau/giciaid' (neu 'gîciau', tybed? Cofier > 'gemau'), gicaidd, gicllyd, gicio, nac ar nerd, nerdau/nerdiaid, nerdaidd, > nerdllyd, nerdio na 'dwîb', dwibiau, dwibaidd, dwibllyd a dwibio. Ac fel > rhyw dipyn o anorac fy hun, byddwn i'n fodlon cymeradwyo > 'anorac(-au, -iaid)', anoracaidd, anoracllyd ac anoracio. > > Yn an-orac(l)aidd > > Berwyn > > ----- Original Message ----- > From: "Symons, David" <[log in to unmask]> > To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]> > Sent: Tuesday, September 14, 2004 2:01 PM > Subject: Re: geek > > > Diolch i bawb ar y ddau gylch ar gyfer eu sylwadau a'u hawgrymiadau. Do'n i > ddim wedi disgwyl codi cymaint o drafodaeth.... o edrych ar nifer o > safleoedd Google mewn ieithoedd gwahanol, mae'r gair yn codi sawl gwaith ym > mhob un, felly effallai mai gair gwir ryngwladol na fyddai'n briodol ei > gyfieithu ydyw. Ond pwy a wyr.... > David Symons > > Uned Gyfieithu San Helen, Abertawe > St Helen's Translation Unit, Swansea > > Ffôn/Phone 01792 462067 > Ffacs/Fax 01792 646903 > > > ---------- > > From: Puw, John[SMTP:[log in to unmask]] > > Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and > > vocabulary > > Sent: 14 September 2004 13:11 > > To: [log in to unmask] > > Subject: Re: geek > > > > Alla i ddim meddwl am air Saesneg arall sy'n cyfleu geek, oni bai am > > anorac! Tydi'r gair ddim yn y Shorter OED (1984) sydd gen i, nac yn ein > > thesawrws ychwaith. > > > > Ydi'r cyfieithiad yn gorfod bod yn ddifrïol? Ydi o'n gorfod dilyn fod > > rhywun sy'n "computer geek" yn rhywun diwerth? Neu ydi o'n arbenigwr > > werth ei nabod oherwydd ei allu i gynnig cymorth mewn byd sy'n hollol > > dywyll i'r rhan fwyaf ohonom. Mae'n rhaid i mi gyfaddef na alla i ddim > > gweld llawer o ddefnydd i arbenigwr playstation ac ati, ond bawb at y peth > > y bo! > > > > Gyda llaw, gen i gw^yn. > > > > Daeth ymateb Geraint yn wreiddiol trwy gyfrwng cylch Tim. Sydd yn > > eithriadol o gynhyrchiol! Ac sydd hefyd yn eithriadol o gymhleth gan fod > > gwasgu reply yn eich cyfeirio yn ôl at yr anfonwr diwethaf, sef Geraint > > Løvgreen yn yr achos hwn. Onid oes lle i faddau a derbyn cyfaill sy'n > > cyfrannu cymaint yn ei ôl i'r cylch? Mae llawer yn methu gweld yr holl > > negeseuon oherwydd nad ydynt yn ymddangos ar restr y cylch, ac mae hyn > > hefyd yn golygu fod archifau WTC yn anghyflawn. Gallai Tim (ac eraill > > sydd o'r un anian â fo megis Gorwel sydd newydd anfon neges hollol dwp a > > gwamal, ond ddaru wneud i mi wenu) ddal i ddefnyddio'r cylch cyfyng ar > > gyfer negeseuon llai difrifol, ond defnyddio'r cylch ar gyfer cyfraniadau > > sydd o fudd i bob cyfieithydd yng Nghymru! Rwan, amser cinio ac amser i > > mi orffen traethu! > > > > > > > > > > Ond mae "climach" yn golygu dyn tal tenau yn ôl y geiriadur: all "geek" > > fod yn stwcyn tew am wn i! > > > > Dwi'n cytuno nad ydi "llipryn" yn cyfleu'r ystyr chwaith, ond ar hyn o > > bryd sgen i ddim byd cadarnhaol i'w gynnig. > > > > (Sori, gas gen i anfon negeseuon negyddol sy'n cynnig dim byd gwell) > > > > Geraint > > > > > > > > > > > > Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o > > angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru. > > Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn > > gyfreithiol freintiedig. > > Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os > > derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, > > dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch > > yn dda. > > Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n > > gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, > > fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, > > dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. > > Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon. > > > > > > This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view > > of North Wales Police. > > The information contained in this communication is confidential. It may be > > legally privileged. > > It is intended only for the person or entity named above. > > If you have received this e-mail in error please notify originator and > > erase this e-mail from your system. > > If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible > > for delivering it to the > > intended recipient, you are hereby notified that any use, review, > > dissemination, distribution or copying > > of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful. > > > > > ****************************************************************** > > This email and any files transmitted with it are confidential > and intended solely for the use of the individual or entity to > whom they are addressed. If you have received this email in error > please notify the administrator on the following address: > [log in to unmask] > > > Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn > gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd > hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy > gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: > [log in to unmask] > > ******************************************************************* > >