Yr hyn a geir yng nghronfa ddata’r Post Brenhinol yw: Waterside Business Park Clos Llyn Cwm Parc Anturiaeth Abertawe ABERTAWE Roeddwn i’n arfer defnyddio “Parc Menter Abertawe” am “Swansea Enterprise Park” ond gan mai “Parc Anturiaeth” yw’r ffurf swyddogol, mae’n debyg ei bod yn rhaid cadw at honno. Cofion Siân -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of bryn rowlands Sent: 14 September 2004 09:13 To: [log in to unmask] Subject: Re: geek Ni chredaf bod angen bathu. Y mae'n siwr o fod ddigon o gyffelybiaethau yn ein rhyddiaith glasurol y gellid eu haddasu neu eu hatgyfodi. Y broblem, wrth gwrs, yw cael yr amser i chwilota amdanyn nhw! Daw llythyrau'r Morisiaid a gwaith Twm o'r Nant i'r meddwl, ond ni chanfum enghraifft dda iawn eto. Er nad yw'n wreiddiol yr union ystyr, mae eitha sain i 'climach' Gw. GPC, Ar fater arall llawer mwy rhyddieithol, David, a oes gennych yn y Ganolfan acw enw Cymraeg ar Waterside Bussiness Park, Abertawe? Bryn David Symons <[log in to unmask]> wrote: Yng nghyd-destun person sydd wedi'i ymroi i ryw diddordeb (cyfrifiaduron, gêmau ffantasi, math 'na o beth) y mae'r mwyafrif o bobl eraill yn ei chael yn anffasiynol neu'n 'drist'. Oes unrhyw un wedi dod ar draws term addas yn y Gymraeg? Oes modd bathu term? Mae diffyg ysbrydoliaeth yma yn Abertawe y bore 'ma, mae arna i ofn.... allwch chi helpu? Diolch ymlaen llaw DS _____ <http://uk.rd.yahoo.com/evt=21626/*http:/uk.messenger.yahoo.com> ALL-NEW Yahoo! Messenger - all new features - even more fun!