Berwyn (a phawb) Rhaid nad wyf yn derbyn yr holl ebyst ar y rhestr achos dw i heb dderbyn yr ebost yn lladd ar y dyfyniad, a ches i broblemau wrth anfon ebyst at y rhestr ddoe. Muiris ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Thursday, September 09, 2004 8:27 AM Subject: Re: Interrogate a text Maddeuant, wrth gwrs! Yr hyn a'm poenodd yn waeth o lawer oedd gweld Muiris (nid bod bai arno fe) yn dyfynnu'r geiriau 'holi ... gyda sensitifrwydd a threiddgarwch', a minne wedi fy nysgu gan gyfieithwyr profiadol fod angen mynegi syniadau o'r fath mewn Cymraeg syml a dirodres a dweud 'holi ... yn sensitif a threiddgar'. Mae defnyddio 'gyda' i gyfieithu'r gair 'with' yn Saesneg yn bla, a dylid meddwl ddwywaith cyn gwneud hynny. (Maddeuer y bregeth!) Berwyn ----- Original Message ----- From: bryn rowlands To: Berwyn Prys Jones Sent: Wednesday, September 08, 2004 5:54 PM Subject: Re: Interrogate a text Ymddiheuriadau i'r cylch, ac yn benodol i Berwyn Rhyw fath o ddigalondid a ddaeth drosof - credaf ei fod yn digwydd o dro i dro i'r rhan fwyaf sy'n gwerithio mewn mwy nag un iaith 'To know another language is to posess another soul' ac nid yw'r gwahanol eneidiau bob amser yn gytun Fodd bynnag, dysgais lawer am 'phising', tywyll pellach mewn bywyd, fe ymddengys Nid oes ond ceisio maddeuant, Bryn Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> wrote: www.estyn.gov.uk/inspection_reports/cy_YGyfTregibW.pdf Yn y chweched dosbarth, bydd y darllen wedi cyrraedd safon soffistigedig. Y mae myfyrwyr y chweched dosbarth yn gallu ****holi testunau**** gyda sensitifrwydd a threiddgarwch, a gallant gefnogi eu barn a'u dehongliadau drwy gyfeirio'n fanwl at ddeunydd ysgrifenedig cymhleth. --- Outgoing mail is certified Virus Free. Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). Version: 6.0.752 / Virus Database: 503 - Release Date: 03/09/2004 ---------------------------------------------------------------------------- ALL-NEW Yahoo! Messenger - all new features - even more fun! --- Outgoing mail is certified Virus Free. Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). Version: 6.0.755 / Virus Database: 505 - Release Date: 08/09/2004