O da iawn - gore'i gyd - o'n i'n meddwl bod 'fersiwn graffigol' yn swnio braidd yn fathemategol ond os ydi Berwyn o'i blaid, mae'n ddigon da i mi! Diolch yn fawr Siân -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones Sent: 08 September 2004 08:21 To: [log in to unmask] Subject: Re: graphical version Yn ôl fel rwy'n deall, 'graffeg' yw'r maes a 'graffigwaith' yw'r cynnyrch. Byddai 'fersiwn â graffigwaith', felly, yn gywirach na 'fersiwn â graffeg'. Wedi dweud hynny, byddwn i'n defnyddio 'fersiwn graffigol'. Berwyn ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, September 07, 2004 8:35 PM Subject: graphical version Mae hwn yn cyfeirio at wefan. Mae dau fersiwn - un yn cynnwys dim ond ysgrifen a'r llall yn cynnwys lluniau ac ati hefyd. Mae'r cyfieithiad presennol yn dweud "fersiwn graffig" am "graphical version" ond dydw i ddim yn hapus â hwn, na "fersiwn graffigol" chwaith. Rwy'n credu bod "fersiwn â graffeg" yn cyfleu'r ystyr yn well. Ydw i'n iawn? Diolch Siân