Diolch Berwyn 
 
Rwyf innau wedi derbyn o leia un o'r e-byst phishing bob dydd ers tua dydd Sadwrn (ar fy nghyfrifiadur gartref - nid un yr heddlu!)  Doeddwn i 'rioed wedi cael yr un cyn hynny.
 
Roeddwn ar goll braidd wedi darllen y neges ac wedi cymryd taw ataf fi yn unig oedd Bryn wedi sgwennu.  Mae'r system yma yn y gwaith yn dangos taw WTC sy'n anfon y neges ar ran pwy bynnag.  Ond mae'r system sydd gennyf gartref, mae'n rhaid, yn dangos enw'r anfonwr gwreiddiol yn unig. Pan blipiodd fy nghyfrifiadur i ddweud fy mod wedi derbyn neges, a phan ddarllennais fod fy neges wedi ei dosbarthu i 164 o bobl, mae'n rhaid i mi gyfaddef i mi gochi!  Dylwn fod wedi craffu ar y bar cyfeiriad cyn anfon yr ateb, oedd gyda llaw yn gwestiwn personol i Bryn!
 
O'r ddau gynnig a gafwyd, - gwesgota a presgota, oherwydd y cyd-destun rwy'n tueddu braidd i ffafrio presgota.  Mae rhwydo hefyd newydd ddod i'r rhwyd (diolch Catrin), felly fe gawn drafodaeth yma, ond os ydych yn cael fflachiadau eraill, mae croeso i chi anfon mwy i'r rhwyd. 
 
Rwan, lle'r aeth yr e-bost yna oedd yn dweud fy mod wedi ennill $1,000,000 heb lenwi unrhyw beth yn gofyn am ennill unrhyw arian?  Wela i chi yn Monte Carlo, we-hei!

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 08 September 2004 08:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Phishing

Mae'n amlwg nad yw Bryn yn cael cynifer o e-byst 'phishing' ag rwy'n eu cael yma bob dydd. Mae un arall newydd gyrraedd y bore 'ma. Felly, ie, i hyn y'n (sylwer ar y collnod) cadwyd ni - i helpu'n gilydd yn lle gwneud sylwadau dianghenraid o ddilornus.
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">bryn rowlands
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Prys Jones
Sent: Tuesday, September 07, 2004 6:46 PM
Subject: Re: Phishing

Am falu cachu diddiwedd. Ai i hyn yn cadwyd ni ?

Berwyn Jones <[log in to unmask]> wrote:
Rhag ofn y bydd rhai ohonoch ar ddi-hun yn crafu'ch pennau drwy'r nos, dyma ddiffiniad gwefan http://www.pcwebopedia.com/TERM/p/phishing.html o'r term phishing'. (Ar hafan y wefan, gyda llaw, fe restrir y termau diweddaraf a ychwanegwyd at ei geiriadur termau.)
 
"(fish´ing) (n.) The act of sending an e-mail to a user falsely claiming to be an established legitimate enterprise in an attempt to scam the user into surrendering private information that will be used for identity theft. The e-mail directs the user to visit a Web site where they are asked to update personal information, such as passwords and credit card, social security, and bank account numbers, that the legitimate organization already has. The Web site, however, is bogus and set up only to steal the user’s information. For example, 2003 saw the proliferation of a phishing scam in which users received e-mails supposedly from eBay claiming that the user’s account was about to be suspended unless he clicked on the provided link and updated the credit card information that the genuine eBay already had. Because it is relatively simple to make a Web site look like a legitimate organizations site by mimicking the HTML code, the scam counted on people being tricked into thinking they were actually being contacted by eBay and were subsequently going to eBay’s site to update their account information. By spamming large groups of people, the “phisher” counted on the e-mail being read by a percentage of people who actually had listed credit card numbers with eBay legitimately.

Phishing, also referred to as brand spoofing or carding, is a variation on “fishing,” the idea being that bait is thrown out with the hopes that while most will ignore the bait, some will be tempted into biting.

Other forms: phish (v.) "

Gobeithio y bydd yr uchod o ryw gymorth. Rhyw ffurf ar 'pysgota' ('pys-gotcha' ddwedai'r Sun, mae'n siw^r!) neu 'bachu' fyddai orau, mae'n debyg.

Pres-gota?

Berwyn

----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Puw, John
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Prys Jones
Sent: Tuesday, September 07, 2004 4:58 PM
Subject: Phishing

Gyfeilllion
 
Ar ddiwedd dydd brafia'r flwyddyn, cwestiwn anodd.  Mae'r uchod yn cyfeirio at droseddwyr yn casglu gwybodaeth amdanoch ar y rhyngrwyd trwy eich cyfeirio at dudalennau sy'n edrych fel gwefan y banc ayyb, lle'r ydych yn cofnodi eich manylion cyfrif ac ati, ac yna'n deffro i gur pen go iawn yn y bore pan fo'r banc yn eich ffonio i dweud fod eich cyfrif wedi diflannu dros nos!
 
Byddai gair neu ddau o gymorth yn cael gwared o'n cur pen ni bore fory, felly os nad ydych yn gallu cysgu heno, plis meddyliwch am ein problem fach ni!
 
Diolch o galon
 
John
 
John Puw
Uned Gyfieithu/Translation Unit
Ffôn/Tel: 01492 510935
Mewnol/Internal: 6135
E-bost/E-mail: [log in to unmask]

Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.

This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.

ALL-NEW Yahoo! Messenger - all new features - even more fun!