Print

Print


Ydy hyn yn golygu y gallwn ni ddechrau 'ych-a-' fel rhagddodiad yn golygu drwg/gwael?  Yn bersonol dw i'n credu bod datblygu rhagddodiad newydd yn profi bod yr iaith yn fyw o hyd!
 
Gallaf i feddwl am sawl 'ych-a' e.e.
 
Ych-a-dafarn - ambell i 'dive' yng Nghaerdydd dw i'n gwybod amdanynt
Ych-a-fwyty - bwyty sy'n 'greasy joes'
Ych-a-gar - car gwael ei gyflwr / car gwael
 
Mae'r defnydd posibl yn f'atgoffa o ddefnydd 'droch-' yn yr Wyddeleg.
 
Un cwestiwn sydd gennyf  sef pa dreiglad fyddai'n dilyn 'ych-a-?  Dw i wedi defnyddio'r treiglad meddal yn yr achosio uchod (ar lun ych-a-Fannau) - a fyddai hynny'n iawn?
 
Muirs
 
 
 
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Puw, John
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, September 03, 2004 1:53 PM
Subject: Re: grot spots

Hoffi hwnna Berwyn.  Mannau Ych a Fi ddaru ni ei dd'eud pan welson ni'r peth gynta, ond mae Ych-a-fannau yn newyddbeth cofiadwy.  A d'eud y gwir, mae'n fwy cofiadwy na Grot Spot!
 
John

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 03 September 2004 13:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: grot spots

ych-a-fannau, o ddilyn awgrym Aled Rhys Wiliam (rwy'n meddwl) mai 'ych-a-fideo' yw 'video nasty'!
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Garmon Davies
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Prys Jones
Sent: Friday, September 03, 2004 1:08 PM
Subject: grot spots

Oes gan unrhyw un derm bachog am yr uchod os gwelwch yn dda? Tai ac adfywio cymunedau yw’r cyd-destun, a deallaf mai ‘mannau anniben’, e.e. ar ystadau tai, yw ystyr ‘grot spots’.

 

Diolch yn fawr ymlaen llaw.

 

Garmon

 

 


Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.


This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
 

---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.751 / Virus Database: 502 - Release Date: 02/09/2004