Rwy wedi dweud ‘parsel’ am 'wrap’ cyn hyn. “sweden” fydda i'n ei ddweud am "swede" Cofion Siân -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Elen Robert Sent: 24 September 2004 11:20 To: [log in to unmask] Subject: termau bwyd Tybed all rhywun helpu gyda’r termau bwyd canlynol: wrap – yn debyg i frechdan, ond wedi ei wneud fel arfer gyda tortilla wedi’i rholio swede – mae GyrA yn rhoi swedsen, swejen, rwden (gog), meipen (gog, cymysgu â turnip), erfinen (de). Ydy ‘swedsen’ neu ‘swejen’ yn dermau ellid eu defnyddio ar draws y wlad? Dwi byth wedi clywed ‘erfinen’ o’r blaen – ydy hwn yn derm cyfarwydd i bobl y de? Ydy ‘rwden’ (neu rwdan?) yn cael ei ddefnyddio ar draws y gogledd? southern-fried – h.y. cyw iâr mewn rhyw friwsion gyda sbeisys, yn null de UDA - fel maen nhw’n ei werthu yn KFC choux puffs – un awgrym yw ‘crwst choux’, ond i mi mae hyn yn golygu ‘choux pastry’. Dwi ddim yn hollol siŵr beth ydyn nhw, ond siŵr o fod rhyw gacennau bychain wedi eu gwneud â chrwst choux. butterfly – h.y. cyw iâr neu gorgimychiaid ayb wedi agor allan ar ffurf pili pala. Diolch am unrhyw help. Elen