Swede – “erfin” bob tro
Choux puff – dy’n nhw ddim bob amser yn felys – wedi cael rhai bach â blas caws arnynt….
Bron yn amser cinio….
-----Original
Message-----
From: Dwynwen Berry
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: 24 September 2004 11:34
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: SPAM-MID termau bwyd
Mae rwdan a swejan (Dyffryn Conwy) yn gyfarwydd iawn i mi .
Choux puff - dwi'n credu mai rhywbeth fel "profiterole" yw, ond yn fwy! h.y. wedi ei lenwi a hufen neu gwstard ac o bosib gyda eisin o ryw fath ar y top! Ych a fi!!
Dwynwen
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]">Elen Robert
Sent: Friday, September 24, 2004 11:20 AM
Subject: SPAM-MID termau bwyd
Tybed all rhywun helpu gyda’r termau bwyd canlynol:
wrap – yn debyg i frechdan, ond wedi ei wneud fel arfer gyda tortilla wedi’i rholio
swede – mae GyrA yn rhoi swedsen, swejen, rwden (gog), meipen (gog, cymysgu â turnip), erfinen (de). Ydy ‘swedsen’ neu ‘swejen’ yn dermau ellid eu defnyddio ar draws y wlad? Dwi byth wedi clywed ‘erfinen’ o’r blaen – ydy hwn yn derm cyfarwydd i bobl y de? Ydy ‘rwden’ (neu rwdan?) yn cael ei ddefnyddio ar draws y gogledd?
southern-fried – h.y. cyw iâr mewn rhyw friwsion gyda sbeisys, yn null de UDA - fel maen nhw’n ei werthu yn KFC
choux puffs – un awgrym yw ‘crwst choux’, ond i mi mae hyn yn golygu ‘choux pastry’. Dwi ddim yn hollol siŵr beth ydyn nhw, ond siŵr o fod rhyw gacennau bychain wedi eu gwneud â chrwst choux.
butterfly – h.y. cyw iâr neu gorgimychiaid ayb wedi agor allan ar ffurf pili pala.
Diolch am unrhyw help.
Elen
PLEASE NOTE: THE ABOVE MESSAGE WAS RECEIVED FROM THE INTERNET.
On entering the GSi, this email was scanned for viruses by the Government
Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in
partnership with MessageLabs.
Please see http://www.gsi.gov.uk/main/notices/information/gsi-003-2002.pdf for
further details.
In case of problems, please call your organisational IT helpdesk