Print

Print


Diolch John a Rhisiart - dylwn fod wedi manteisio ar y cyfle i holi Dr Bruce yng nghyfarfod blynyddol CCyfieithwyrC ddoe!
Mae sylw Rhisiart yn fy atgoffa am ymadrodd fy mam (o ddyfryn Ceiriog) pan oedd yn cael trafferth i frwsio fy ngwallt hir yn blentyn - 'mae dy wallt yn gwnstrwm mwnwgl'! 
Glenys
  ----- Original Message ----- 
  From: Puw, John 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Wednesday, September 22, 2004 9:47 PM
  Subject: Re: Tal-y-llyn Lake


  Mae'n bosib taw tafodiaeth yr ardal achosodd y newid o Myngul i Myngil.  Tydi pobl yr ochr yna i Fwlch Tal-y-llyn ddim yn ynganu'r "u" yn y ffordd ogleddol - yn wahanol i bobl ochr arall y Bwlch.  Rydw i fy hun o Abergynolwyn yn wreiddiol, ond mae gan fy nheulu gysylltiadau cryf â Dinas Mawddwy ac ardaloedd eraill o amgylch Dolgellau, felly roedden ni'n siarad yn debycach iddyn nhw - er, dwi'n cofio cael fy nysgu i ynganu'r "u" pan o'n i tua chwech neu saith oed oherwydd fy mod yn swnio fel "pobl Tywyn" (mae pobl Tywyn yn hollol O Ce, cofiwch - eu hunig fai yw eu methiant i ynganu'r "u"!) 

  Mae gen i deimlad felly taw Myngul sy'n gywir, ac mai sillafiad "tafodiaethol" sydd yn GyrA - ond mai'n siwr fy mod yn hollol anghywir, a bydd Ann (ar ran Bruce) yn fy saethu i lawr megis Gwydd o Ganada tua chwarter i hanner nos!

  Yn iach (ar hyn o bryd)

  John



  ________________________________

  From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhisiart Hincks
  Sent: 22 September 2004 20:52
  To: [log in to unmask]
  Subject: Re: Tal-y-llyn Lake


  Cofiaf fod Bobi Jones wastad yn dweud mai Myngul ydoedd, ond mae'n amlwg fod dehongliadau eraill, ee Mwyngil. Mae myn (gwddf) cul yn arbennig o addas i ddisgrifio'r llyn a ffurfiodd y tu ôl i ryw glawdd naturiol - a adawyd gan rewlif, mae'n debyg.

  Rhisiart

          ----- Original Message -----
          From: Glenys M Roberts <mailto:[log in to unmask]> 
          To: [log in to unmask]
          Sent: Wednesday, September 22, 2004 3:34 PM
          Subject: Tal-y-llyn Lake
         
         
          Llyn Myngul yn ôl y Gazetteer ond Llyn Myngil yn GA.  Oes 'na reswm am y gwahaniaeth?
          Glenys




  Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru. 
  Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig. 
  Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, 
  dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda. 
  Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, 
  fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. 
  Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.


  This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
  The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged. 
  It is intended only for the person or entity named above. 
  If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system. 
  If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the 
  intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying 
  of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.