Pwyso faswn innau'n dweud hefyd - mae posib pwyso efo un bys, ond mae angen o leiaf fys a bawd i wasgu dwi'n meddwl! (ie, squeeze fyddai gwasgu). Rhyfedd hefyd - mae posib pwyso am ateb neu wasgu am ateb hefyd on'd oes? (press eto yn Saesneg) Catrin ----- Original Message ----- From: Geraint Løvgreen To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, September 22, 2004 8:47 AM Subject: Re: remote control Pwyso botwm fydda i - mae gwasgu'n gwneud i mi feddwl am "squeeze" neu rywbeth... ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, September 22, 2004 8:38 AM Subject: Re: remote control 'Gwasgu' yw'r gair sy'n dod yn naturiol i'm meddwl i, rhaid dweud, er 'mod i'n rhoi 'pwyso' wrth gyfieithu deunydd addysg. Tybed ai'r rheswm yw bod 'pwyso' hefyd yn golygu 'to weigh'? (Wna i ddim pwyso arnoch chi i ymateb ...) Berwyn ----- Original Message ----- From: David Bullock To: Berwyn Prys Jones Sent: Wednesday, September 22, 2004 8:29 AM Subject: Re: remote control Yn fy nyddiau cynnar fel cyfieithydd, fe eglurodd rhywun - yn garedig iawn mae'n rhaid dweud - fod "gwasgu" a "pwyso" yn ddau beth gwahanol, ac mai "pwyso botymau" oedd yn iawn. Ond er 'mod i'n ceisio gwahaniaethu, mae'r plant bob amser yn "gwasgu" botwm: dwy ddim yn credu bod "pwyso" yn rhan o'u geirfa nhw. Oes gwahaniaeth felly? Ac oes ots? -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Rhisiart Hincks Sent: 21 September 2004 18:43 To: David Bullock Subject: Re: remote control Diolch am yr holl awgrymiadau. Mae'n debyg mai pellurzhier 'pellorchmynnwr' yw'r bathiad yn Llydaweg, ac felly 'teclyn rheoli o bell' sydd fwyaf safonol i gyfateb iddo. Mae 'peiriant pwdryn' yn wych mewn rhai cyd-destunau. ('y peth gwasgu' y byddwn ni'n ei ddefnyddio gartref.) Rhisiart ----- Original Message ----- From: Sian Roberts To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, September 21, 2004 11:38 AM Subject: Re: remote control Da! Rwy newydd gyfieithu taflen i rieni yn awgrymu ffyrdd o gael eu plant i wneud mwy o ymarfer corff – ac roedd cuddio’r ‘peiriant pwdryn’ yn un o’r awgrymiadau! -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones Sent: 21 September 2004 10:03 To: [log in to unmask] Subject: Re: remote control 'Peiriant pwdryn' yn ôl un teulu yn y Gorllewin pell! Berwyn ----- Original Message ----- From: Garmon Davies To: Berwyn Prys Jones Sent: Tuesday, September 21, 2004 9:50 AM Subject: Re: remote control ‘Peth bach du’ yn ein tŷ ni! Garmon -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 21 September 2004 09:52 To: [log in to unmask] Subject: Re: remote control “Y twlsyn” neu “y teclyn” yw e yma – ac mae un o’r tacla ar goll ETO! -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen Sent: 21 September 2004 09:40 To: [log in to unmask] Subject: Re: remote control Na, ddim wir, ond diddorol. Y 'siffacs' dan ni'n alw fo ... ----- Original Message ----- From: Meg Elis To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, September 21, 2004 12:14 AM Subject: Re: remote control Yr enw amdano yn ein teulu ni yw 'remocen'. Unrhyw help?