Print

Print



'Gwasgu' yw'r gair sy'n dod yn naturiol i'm meddwl i, rhaid dweud, er 'mod i'n rhoi 'pwyso' wrth gyfieithu deunydd addysg. Tybed ai'r rheswm yw bod 'pwyso' hefyd yn golygu 'to weigh'? (Wna i ddim pwyso arnoch chi i ymateb ...)
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">David Bullock
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Prys Jones
Sent: Wednesday, September 22, 2004 8:29 AM
Subject: Re: remote control

Yn fy nyddiau cynnar fel cyfieithydd, fe eglurodd rhywun - yn garedig iawn mae'n rhaid dweud - fod "gwasgu" a "pwyso" yn ddau beth gwahanol, ac mai "pwyso botymau" oedd yn iawn. Ond er 'mod i'n ceisio gwahaniaethu, mae'r plant bob amser yn "gwasgu" botwm: dwy ddim yn credu bod "pwyso" yn rhan o'u geirfa nhw. 
 
Oes gwahaniaeth felly? Ac oes ots?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Rhisiart Hincks
Sent: 21 September 2004 18:43
To: David Bullock
Subject: Re: remote control

Diolch am yr holl awgrymiadau. Mae'n debyg mai pellurzhier 'pellorchmynnwr' yw'r bathiad yn Llydaweg, ac felly 'teclyn rheoli o bell' sydd fwyaf safonol i gyfateb iddo. Mae 'peiriant pwdryn' yn wych mewn rhai cyd-destunau.  ('y peth gwasgu' y byddwn ni'n ei ddefnyddio gartref.)
 
Rhisiart
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Sian Roberts
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, September 21, 2004 11:38 AM
Subject: Re: remote control

Da! Rwy newydd gyfieithu taflen i rieni yn awgrymu ffyrdd o gael eu plant i wneud mwy o ymarfer corff – ac roedd cuddio’r ‘peiriant pwdryn’ yn un o’r awgrymiadau!

 

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 21 September 2004 10:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: remote control

 

'Peiriant pwdryn' yn ôl un teulu yn y Gorllewin pell!

 

Berwyn

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Garmon Davies

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Prys Jones

Sent: Tuesday, September 21, 2004 9:50 AM

Subject: Re: remote control

 

‘Peth bach du’ yn ein tŷ ni!

 

Garmon

 

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 21 September 2004 09:52
To: [log in to unmask]
Subject: Re: remote control

 

“Y twlsyn” neu “y teclyn” yw e yma – ac mae un o’r tacla ar goll ETO!

 

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen
Sent: 21 September 2004 09:40
To: [log in to unmask]
Subject: Re: remote control

 

Na, ddim wir, ond diddorol.

 

Y 'siffacs' dan ni'n alw fo ...

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Meg Elis

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, September 21, 2004 12:14 AM

Subject: Re: remote control

 

Yr enw amdano yn ein teulu ni yw 'remocen'. Unrhyw help?