Print

Print


'Gwasgu' yw'r gair sy'n dod yn naturiol i'm meddwl i, rhaid dweud, er 'mod i'n rhoi 'pwyso' wrth gyfieithu deunydd addysg. Tybed ai'r rheswm yw bod 'pwyso' hefyd yn golygu 'to weigh'? (Wna i ddim pwyso arnoch chi i ymateb ...)

Berwyn
  ----- Original Message ----- 
  From: David Bullock 
  To: Berwyn Prys Jones 
  Sent: Wednesday, September 22, 2004 8:29 AM
  Subject: Re: remote control


  Yn fy nyddiau cynnar fel cyfieithydd, fe eglurodd rhywun - yn garedig iawn mae'n rhaid dweud - fod "gwasgu" a "pwyso" yn ddau beth gwahanol, ac mai "pwyso botymau" oedd yn iawn. Ond er 'mod i'n ceisio gwahaniaethu, mae'r plant bob amser yn "gwasgu" botwm: dwy ddim yn credu bod "pwyso" yn rhan o'u geirfa nhw.  

  Oes gwahaniaeth felly? Ac oes ots?
    -----Original Message-----
    From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Rhisiart Hincks
    Sent: 21 September 2004 18:43
    To: David Bullock
    Subject: Re: remote control


    Diolch am yr holl awgrymiadau. Mae'n debyg mai pellurzhier 'pellorchmynnwr' yw'r bathiad yn Llydaweg, ac felly 'teclyn rheoli o bell' sydd fwyaf safonol i gyfateb iddo. Mae 'peiriant pwdryn' yn wych mewn rhai cyd-destunau.  ('y peth gwasgu' y byddwn ni'n ei ddefnyddio gartref.)

    Rhisiart
      ----- Original Message ----- 
      From: Sian Roberts 
      To: [log in to unmask] 
      Sent: Tuesday, September 21, 2004 11:38 AM
      Subject: Re: remote control


      Da! Rwy newydd gyfieithu taflen i rieni yn awgrymu ffyrdd o gael eu plant i wneud mwy o ymarfer corff – ac roedd cuddio’r ‘peiriant pwdryn’ yn un o’r awgrymiadau!



      -----Original Message-----
      From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
      Sent: 21 September 2004 10:03
      To: [log in to unmask]
      Subject: Re: remote control



      'Peiriant pwdryn' yn ôl un teulu yn y Gorllewin pell!



      Berwyn

        ----- Original Message ----- 

        From: Garmon Davies 

        To: Berwyn Prys Jones 

        Sent: Tuesday, September 21, 2004 9:50 AM

        Subject: Re: remote control



        ‘Peth bach du’ yn ein tŷ ni! 



        Garmon



        -----Original Message-----
        From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
        Sent: 21 September 2004 09:52
        To: [log in to unmask]
        Subject: Re: remote control



        “Y twlsyn” neu “y teclyn” yw e yma – ac mae un o’r tacla ar goll ETO!



        -----Original Message-----
        From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen
        Sent: 21 September 2004 09:40
        To: [log in to unmask]
        Subject: Re: remote control



        Na, ddim wir, ond diddorol.



        Y 'siffacs' dan ni'n alw fo ...

          ----- Original Message ----- 

          From: Meg Elis 

          To: [log in to unmask] 

          Sent: Tuesday, September 21, 2004 12:14 AM

          Subject: Re: remote control



          Yr enw amdano yn ein teulu ni yw 'remocen'. Unrhyw help?