Dwi ddim yn siŵr ydy parseli yn cyfleu’r un peth â wrap, ond mi wna’i ei ystyried!
Gallaf ddefnyddio erfin, rwdan, neu swêj mewn rhestr felly, a dynodi gwahaniaeth tafodieithol, dwi’n cymryd.
Bydd y system e-bost yma lawr pnawn ma, ond baswn i’n gwerthfawrogi unrhyw gyfraniadau pellach.
Elen
Oddi wrth/From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar
ran Meinir Jones
Anfonwyd/Sent: 24 Medi 2004 11:43
At/To:
[log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: termau bwyd
“Parseli” mae Cofi Roc yng Nghaernarfon yn ei ddefnyddio am ‘wraps’ yn eu bwydlen Gymraeg.
Meinir
_____________________
Meinir Eluned Jones
Cyfieithydd / Translator
Gyrfa Cymru / Careers Wales
Prif Swyddfa
5 Stryd y Castell
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SE
Ffôn uniongyrchol / Direct phone no. 01286 679282
-----Original Message-----
From: Tiplady, Lisa (APS RoP)
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: 24 September 2004 11:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: SPAM-MID termau bwyd
Swede – “erfin” bob tro
Choux puff – dy’n nhw ddim bob amser yn felys – wedi cael rhai bach â blas caws arnynt….
Bron yn amser cinio….
-----Original Message-----
From: Dwynwen Berry
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: 24 September 2004 11:34
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: SPAM-MID termau bwyd
Mae rwdan a swejan (Dyffryn Conwy) yn gyfarwydd iawn i mi .
Choux puff - dwi'n credu mai rhywbeth fel "profiterole" yw, ond yn fwy! h.y. wedi ei lenwi a hufen neu gwstard ac o bosib gyda eisin o ryw fath ar y top! Ych a fi!!
Dwynwen
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]">Elen Robert
Sent: Friday, September 24, 2004 11:20 AM
Subject: SPAM-MID termau bwyd
Tybed all rhywun helpu gyda’r termau bwyd canlynol:
wrap – yn debyg i frechdan, ond wedi ei wneud fel arfer gyda tortilla wedi’i rholio
swede – mae GyrA yn rhoi swedsen, swejen, rwden (gog), meipen (gog, cymysgu â turnip), erfinen (de). Ydy ‘swedsen’ neu ‘swejen’ yn dermau ellid eu defnyddio ar draws y wlad? Dwi byth wedi clywed ‘erfinen’ o’r blaen – ydy hwn yn derm cyfarwydd i bobl y de? Ydy ‘rwden’ (neu rwdan?) yn cael ei ddefnyddio ar draws y gogledd?
southern-fried – h.y. cyw iâr mewn rhyw friwsion gyda sbeisys, yn null de UDA - fel maen nhw’n ei werthu yn KFC
choux puffs – un awgrym yw ‘crwst choux’, ond i mi mae hyn yn golygu ‘choux pastry’. Dwi ddim yn hollol siŵr beth ydyn nhw, ond siŵr o fod rhyw gacennau bychain wedi eu gwneud â chrwst choux.
butterfly – h.y. cyw iâr neu gorgimychiaid ayb wedi agor allan ar ffurf pili pala.
Diolch am unrhyw help.
Elen
PLEASE NOTE: THE ABOVE MESSAGE WAS RECEIVED FROM THE INTERNET.
On entering the GSi, this email was scanned for viruses by the Government
Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in
partnership with MessageLabs.
Please see http://www.gsi.gov.uk/main/notices/information/gsi-003-2002.pdf for
further details.
In case of problems, please call your organisational IT helpdesk
The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure
Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in
partnership with MessageLabs.
On leaving the GSi this email was certified virus-free