Buom yn nosbarth Hywel Wyn Owen ar enwau lleoedd llynedd, a dywedodd - cyhyd a 'dw i'n dal i ddeall fy nodiadau - ei bod hi'n gyffredin i enw afon gyfeirio at y ffordd ei bod (mewn un rhan o leiaf) yn gyrru trwy'r tir fel twrch, neu nodwydd, neu ebol gwyllt (??Ebwy). Ann ----- Original Message ----- From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, September 20, 2004 1:31 AM Subject: Re: wyneb > Chlywais i mohono fo yng Ngwynedd - ond erbyn meddwl, dydi hynny'n golygu > dim! > Er hynny, y "Mole Valley" maen nhw'n galw lle rydwi'n byw... > Dafydd > > On Sun, 19 Sep 2004 17:16:31 EDT, Huw Garan <[log in to unmask]> wrote: > > >Gan ein bod ni'n siarad am ymadroddion, un a glywais y prynhawn 'ma gan > >fenyw o ddyffryn Aman wrth i ni gerdded ar lannau Afon Twrch (Cwm Tawe) > ar y > >Mynydd Du. Roedd yn rhyfeddu bod rhywrai wedi enwi'r afon yn Afon Twrch > oherwydd > >bod 'Twrch o ddyn' yn ymadrodd am ddyn annymunol iawn yn nyffryn Aman. > > > >Ydy hwn yn ymadrodd sy'n digwydd yn nyffryn Aman yn unig neu'n ymadrodd > >cyffredin nad yw wedi treiddio i Flaenau Tywi? > > > >Hg > > > >