Ai 'Bryncwtyn' yw enw Cymraeg 'Milton' Sir Benfro? Dyw'r naill na'r llall yn digwydd yn y Gazetteer. 'Milton' a geir yn y Map yn y Gymraeg. Ceir Bryncwtyn am Milton yng Ngeiriadur yr Academi ond fe allai fod mwy nag un lle o'r enw Milton yng Nghymru. Ceir un cyfeiriad yn Google at Bryncwtyn yn Sir Benfro - ond gallai hyn fod yn achos o gyfieithydd yn edrych yn y Geiriadur heb adnabod yr ardal. Mae'r rhan fwyaf o enghreifftiau o Bryncwtyn a geir o edrych yn Google yn cyfeirio at Heol Bryncwtyn ym Mhencoed. Unrhyw oleuni? Cofion Siān