'Dyn ni ddim wedi cael amser eto i dynnu'r papur oddi ar y fersiwn Ffrangeg a brynsom ar ein mis mel, ond 'dw i newydd agor y fersiwn Cymraeg a gawsom yn anrheg 'Dolig sawl blwyddyn yn ol. Mae 'na gerdyn: Go to jail move directly to jail do not pass "go" do not collect £200 (priflythrennau i gyd, dim atalnodi o gwbl) Ewch i'r carchar ewch yn syth i'r carchar peidiwch pasio "Ewch" peidiwch casglu £200 Fyddwn i ddim yn gadael i hynny fy rhwystro rhag ysgrifennu "Peidiwch â phasio "Ewch". Nid yw safon yr iaith yn arbennig o uchel, e.e. "Drunk in Charge" "Meddw, Gofali" Ann ----- Original Message ----- From: "H.K.Smith" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Thursday, August 19, 2004 3:04 PM Subject: Re: gorchmynion Cymraeg y gêm Monopoly > Cofiaf yr hen fersiwn Saesneg pan oeddwn yn blentyn, a'r cerdyn 'Chance' > yn gorchymyn fel hyn: > > "Go to jail. > Go directly to jail. > Do not pass Go or collect £200" > > Felly, mae 'pass go' yn ymadrodd yn yr hen g^em. > > Helen > > Ysgrifennodd David Bullock: > > "Ymlaen at 'Ewch'" yw "Advance to 'Go'", ond dwy ddim yn credu bod yna "Pass > > Go" yn rhan o'r gêm ei hun, oes e? > > > > -- > H.K.Smith (Helen) [log in to unmask] > (Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask] > > > * * * * > * * * > * * Cathod/Cats > * * Pianos > * * > * > > > > >