Rwy'n edrych ymlaen at weld pennawd yn y Wrexham Leader: 'Ponciau yn y Ponciau - boncyrs! Sticiwch at dwmpathau. Berwyn ----- Original Message ----- From: Glenys M Roberts To: Berwyn Prys Jones Sent: Friday, July 30, 2004 3:13 PM Subject: Re: speed ramps Rydw i'n cofio chwarae gêm o'r enw 'gwnewch y twmpath yn fwy!' yn Ysgol Penrallt yn Llangefni erstalwm. O diar, dangos fy oed eto! Glenys ----- Original Message ----- From: catrin.alun To: [log in to unmask] Sent: Friday, July 30, 2004 1:34 PM Subject: Re: speed ramps Oes ots? Mae 'sleeping policeman' yn Saesneg yn awgrymu darlun digon doniol beth bynnag! Cyn belled a bod y twmpathau'n gwneud eu gwaith, alla'i ddim gweld bod ots am y cysylltiad a dawnsio gwerin. Beth bynnag, onid twmpath sydd gan wahadden? Mae ponc yn awgrymu rhywbeth mwy na twmpath i mi - fyddai'n fwy tebygol o chwalu'r car na'i arafu. Gyda llaw - mae twmpath arafu mwyaf anghysbell a dibwrpas Cymru i'w ganfod yn Heol y Mynydd, Craig Cefn Parc - ffordd heb ei mabwysiadu gan y cyngor, sy'n arwain i'r mynydd - a byddai gwneud mwy na rhyw 20mya yn golygu colli eich egsost!!! (Os nad oes rhywun yn gwybod am un gwell!) Catrin Catrin ----- Original Message ----- From: Garmon Davies To: [log in to unmask] Sent: Friday, July 30, 2004 1:23 PM Subject: Re: speed ramps Rydw i'n cytuno â Geraint, fy hun, ac yn meddwl, gan fod 'twmpath' yn air mor gyffredin yng nghyswllt dawnsio gwerin, ei fod yn cyfleu rhyw syniad tebyg i'r un a ddisgrifiodd Geraint yn ei neges. Garmon Garmon Davies Ewrolingo +44 (0) 1656 668603 www.ewrolingo.co.uk -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Huw Garan Sent: 30 July 2004 13:15 To: [log in to unmask] Subject: Re: speed ramps Rhaid anghytuno â Geraint - ac â Bruce, mae'n debyg - 'twmpathau' sy'n gyffredin ar y rhan fwyaf o arwyddion ledled y de o'r hyn a wela' i (e.e. "twmpathau am 400 llath"), ac mae 'ponciau' yn air anghyfarwydd i'r rhan fwyaf o ddeheuwyr, mi dybiwn (dyna mae Geiriadur y Brifysgol yn ei awgrymu i mi hefyd). Er cysondeb felly, yn ogystal ag er lles ymwelwyr o'r de byddwn i'n awgrymu cadw at 'twmpathau'. Rhydd i unrhyw un anghytuno, serch hynny! Hg