----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Garmon DaviesTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Friday, July 30, 2004 1:23 PMSubject: Re: speed rampsRydw i’n cytuno â Geraint, fy hun, ac yn meddwl, gan fod ‘twmpath’ yn air mor gyffredin yng nghyswllt dawnsio gwerin, ei fod yn cyfleu rhyw syniad tebyg i’r un a ddisgrifiodd Geraint yn ei neges.
Garmon
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Huw Garan
Sent: 30 July 2004 13:15
To: [log in to unmask]
Subject: Re: speed ramps
Rhaid anghytuno â Geraint - ac â Bruce, mae'n debyg - 'twmpathau' sy'n gyffredin ar y rhan fwyaf o arwyddion ledled y de o'r hyn a wela' i (e.e. "twmpathau am 400 llath"), ac mae 'ponciau' yn air anghyfarwydd i'r rhan fwyaf o ddeheuwyr, mi dybiwn (dyna mae Geiriadur y Brifysgol yn ei awgrymu i mi hefyd).
Er cysondeb felly, yn ogystal ag er lles ymwelwyr o'r de byddwn i'n awgrymu cadw at 'twmpathau'. Rhydd i unrhyw un anghytuno, serch hynny!
Hg