Print

Print


Oes ots?  Mae 'sleeping policeman' yn Saesneg yn awgrymu darlun digon doniol beth bynnag!  Cyn belled a bod y twmpathau'n gwneud eu gwaith, alla'i ddim gweld bod ots am y cysylltiad a dawnsio gwerin.  Beth bynnag, onid twmpath sydd gan wahadden?  Mae ponc yn awgrymu rhywbeth mwy na twmpath i mi - fyddai'n fwy tebygol o chwalu'r car na'i arafu.

Gyda llaw - mae twmpath arafu mwyaf anghysbell a dibwrpas Cymru i'w ganfod yn Heol y Mynydd, Craig Cefn Parc - ffordd heb ei mabwysiadu gan y cyngor, sy'n arwain i'r mynydd - a byddai gwneud mwy na rhyw 20mya yn golygu colli eich egsost!!!  (Os nad oes rhywun yn gwybod am un gwell!)

Catrin

Catrin
  ----- Original Message ----- 
  From: Garmon Davies 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Friday, July 30, 2004 1:23 PM
  Subject: Re: speed ramps


  Rydw i'n cytuno â Geraint, fy hun, ac yn meddwl, gan fod 'twmpath' yn air mor gyffredin yng nghyswllt dawnsio gwerin, ei fod yn cyfleu rhyw syniad tebyg i'r un a ddisgrifiodd Geraint yn ei neges.



  Garmon



  Garmon Davies

  Ewrolingo

  +44 (0) 1656 668603

  www.ewrolingo.co.uk

  -----Original Message-----
  From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Huw Garan
  Sent: 30 July 2004 13:15
  To: [log in to unmask]
  Subject: Re: speed ramps



  Rhaid anghytuno â Geraint - ac â Bruce, mae'n debyg - 'twmpathau' sy'n gyffredin ar y rhan fwyaf o arwyddion ledled y de o'r hyn a wela' i (e.e. "twmpathau am 400 llath"), ac mae 'ponciau' yn air anghyfarwydd i'r rhan fwyaf o ddeheuwyr, mi dybiwn (dyna mae Geiriadur y Brifysgol yn ei awgrymu i mi hefyd).



  Er cysondeb felly, yn ogystal ag er lles ymwelwyr o'r de byddwn i'n awgrymu cadw at 'twmpathau'.  Rhydd i unrhyw un anghytuno, serch hynny!



  Hg