eang ei gorwelion? Ann ----- Original Message ----- From: "Garmon Davies" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, July 05, 2004 4:30 PM Subject: outward-looking Mae trafodaeth fer yn yr archifau ond ni chynigiwyd unrhyw beth a fyddai'n gwneud y tro ar gyfer hwn: "Our aim is the creation of a confident and outward-looking Wales" yw'r frawddeg dan sylw. Rwy'n cymryd bod 'eangfrydig' yn wahanol i 'outward-looking' gan mai 'broad-minded' fyddai hynny. Rwy'n gyndyn o ddefnyddio'r ymadrodd 'sy'n edrych tuag allan' rhag ofn iddo swnio'n rhy llythrennol ond mae sawl enghraifft o hyn ar y We, e.e. gwefan Oxfam-Cymru. Beth yw barn eraill am hyn os gwelwch yn dda? A fyddai'n well ceisio ei aralleirio, e.e. dweud "Ein hamcan yw creu Cymru sy'n hyderus ac yn ymwybodol o'r byd o'i chwmpas" ynteu a yw'n iawn dweud "sy'n hyderus ac yn edrych tuag allan"? Hefyd, a yw'n iawn siarad fel hyn am wlad, ynteu a oes angen defnyddio'r gair pobl mewn rhyw ffordd, e.e. "Ein hamcan yw creu Cymru y mae ei phobl yn hyderus ac yn ymwybodol o'r byd o'u cwmpas/o'i chwmpas" neu "y mae ei phobl yn edrych tuag allan"? Diolch am unrhyw gymorth. Garmon Garmon Davies Ewrolingo +44 (0) 1656 668603 <http://www.ewrolingo.co.uk> www.ewrolingo.co.uk