Dyma gywiro un peth a ddywedais yn y neges ddiwethaf - mae'n ymddangos i mi o feddwl eilwaith mai wedi colli un llafariad o'r ferf y mae 'canadwy' (can-u)a 'bwytadwy' (bwyt-a) cyn ychwanegu'r terfyniad '-adwy' (yn hytrach na'u bod yn cynnwys enw). Os felly, a fyddai 'adeiladadwy' ac 'adeiladadwyedd' yn iawn, hynny yw colli'r llafariad 'u' o 'adeiladu' ac ychwanegu'r terfyniad 'adwy(-edd)? Garmon Garmon Davies Ewrolingo +44 (0) 1656 668603 www.ewrolingo.co.uk -----Original Message----- From: Garmon Davies [mailto:[log in to unmask]] Sent: 15 June 2004 12:27 To: 'Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary' Subject: RE: buildability Diolch yn fawr, Ann. Rwy'n hoff o 'dichonolrwydd ei adeiladu'. Byddai'n braf gallu cael un gair, h.y. 'adeiladwyedd', ond rwyf wedi ceisio cymharu 'adeiladwy(-edd)' ā geiriau tebyg sydd eisoes yn bodoli, e.e. 'bwytadwy', 'darllenadwy' sydd i'w gweld fel pe baent yn cynnwys berf ac yna'r terfyniad '-adwy'. Mae 'canadwy' wedyn yn cynnwys enw, 'cān', ac yna'r terfyniad 'adwy'. A ydw i'n iawn felly bod yn rhaid cael enw neu ferf *cyn* y terfyniad '-adwy' ac y byddai 'adeiladwy' yn anghywir am fod yr 'ad' yn *rhan* o'r terfyniad 'adwy' ac felly yr hyn sydd gennym yma yw 'adeil' (sydd ddim yn air nac yn ferf) ac 'adwy'? Dyma sy'n fy rhwystro rhag defnyddio 'adeiladwyedd' ar hyn o bryd... 'Dichonolrwydd ei adeiladu' amdani felly oni bai fod rhywun yn gallu cadarnhau bod 'adeiladwyedd' yn gywir... Garmon Garmon Davies Ewrolingo +44 (0) 1656 668603 www.ewrolingo.co.uk -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 15 June 2004 12:15 To: [log in to unmask] Subject: Re: buildability 'Rwyf wedi defnyddio "dichonoldeb ei adeiladu" unwaith. Ann ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, June 15, 2004 12:02 PM Subject: Re: buildability > Adeiladwyedd? > > > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garmon Davies > Sent: 15 June 2004 11:49 > To: [log in to unmask] > Subject: buildability > > > > Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw awgrymiadau ar gyfer yr uchod. Dyma > ddisgrifiad o'r term y dois o hyd iddo ar y We mewn rhagarweiniad i lyfr > yn dwyn y teitl 'Buildability - A Perennial Problem'. Problem yn wir! > > > > Buildability can be defined as 'the extent to which the design of the > building facilitates ease of construction, subject to the overall > requirements for the completed building'. This has not, however, always > been the interpretation of the term, with the definition itself evolving > over the last 30 years. > > Buildability has traditionally focused on problems arising in the design > and construction phases. Nowadays it is taken to have a wider remit, > which addresses the whole lifecycle of the building. This wider remit > emphasises the applicability of the concept to all project participants. > Buildability cannot be effective as a stand-alone tool. It has to be > implemented as part of a programme that clearly specifies the primary > project objectives and allows buildability to be assessed as a project > performance attribute. Buildability objectives should also be clearly > identified for the different roles and responsibilities of the various > members of the project team. > > > > Diolch yn fawr ymlaen llaw, > > > > Garmon > > > > Garmon Davies > > Ewrolingo > > +44 (0) 1656 668603 > > <http://www.ewrolingo.co.uk> www.ewrolingo.co.uk > > > >