Ydy hynny'n golygu bod pladur yn gasgliad o plâu te? (Jôc oedd hyn'na, cyn ichi i gyd estyn am gywiriadur!) -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett Sent: 20 May 2004 17:55 To: David Bullock Subject: Re: Palmtops Yn anffodus, nid yw gliniadur yn batrwm y dylid ei ddilyn. 'Roeddwn i wedi clywed Bruce yn beirniadu'r gair o'r blaen, felly gofynnais am eglurhad: Mae "-iadur" naill ai'n gasgliad o rywbeth - meddyliwch am ddyddiadur, geiriadur, blwyddiadur (?), Suliadur ayb - neu'n mynd efo rhyw ferf - teipiadur, cyfrifiadur ayb. Nid yw gliniadur yn gasgliad o liniau ac nid yw'n glinio. Mae'n biti pan fo rhywbeth a arferai olygu rhywbeth yn colli ei ystyr dim ond oherwydd i'r gair newydd swnio'n dwt - yn anffodus, pethau fel 'na sy'n cydio. Yn anffodus, nid oedd Bruce yn medru meddwl am ddim by arall yn ar y pryd. Gyda llaw, ychydig iawn y byddwn ni o gwmpas yn y dyddiau/wythnos nesaf chwaith. Ann ----- Original Message ----- From: "Roberts, Nia" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Thursday, May 20, 2004 4:42 PM Subject: Re: Palmtops > Gan ddilyn patrwm 'gliniadur' am laptop, beth am 'clediadur/llawiadur(!!?). > Gyda hynny o awgrym, hwyl, dwi'n mynd adre! > Nia > > > ---------- > > From: Saran Prydderch[SMTP:[log in to unmask]] > > Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and > > vocabulary > > Sent: 20 May 2004 15:00 > > To: [log in to unmask] > > Subject: Palmtops > > > > Hynny yw - y cyfrifiadur bach y byddwch yn dal yn eich llaw. Oes unrhyw un > > yn gallu meddwl am drosiad bachog neu wedi defnyddio rhywbeth eisoes? > > > > Diolch eto, > > Saran > > > > Saran Prydderch > > Cyfieithydd Cymunedol / Community Translator > > Menter Iaith Abertawe > > Ty Tawe > > 9 Stryd Christina > > Abertawe > > SA1 4EW > > > > 01792 652252 > > > > > ****************************************************************** > > This email and any files transmitted with it are confidential > and intended solely for the use of the individual or entity to > whom they are addressed. If you have received this email in error > please notify the administrator on the following address: > [log in to unmask] > > > Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn > gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd > hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy > gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: > [log in to unmask] > > ******************************************************************* >