Print

Print


Wnes i ddim awgrymu mod i wedi defnyddio un erioed, na bod gen i fysls!
Geraint

----- Original Message -----
From: "John Puw" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, May 13, 2004 1:25 PM
Subject: Re: multi-gym


Mae ambell fath o gampfa gryno'n cynnwys offer gwthio, tynnu, gwasgu, codi,
eistedd, plygu a phob peth cas arall fedar dyn neu ddynes ei wneud i'r
amryfal grwpiau cyhyrau yn eu cyrff .  Mae'r "peiriant" yn gwneud yr union
yr un pwrpas â'r adeilad mawr, oni bai fod un cylchdro o'i gwmpas yn cymryd
pum eiliad yn hytrach na phum munud, ac nad yw'n bosibl dringo rhaffau pan
fydd cefn yr athro wedi ei droi gan nad oes lle i hongian rhaffau arno.

Roedd 'na un newydd sbon danlli mewn ystafell eitha bach yn hen adeilad y
chweched yn ysgol Tywyn pan oeddwn i yno yn y 70au (y ganrif dwytha, nid yr
un cynt)  - ochr arall i'r ysgol i lle'r oedd y gampfa go iawn.  Ond roedd y
gampfa gryno yn boblogaidd iawn 'radeg honno ymysg ni hogia oedd yn ceisio
tyfu cyhyrau mwy er mwyn denu'r genod.  Y drwg oedd, roedd yr hogla chwys yn
gwneud iddyn nhw lewygu!  Roedd 'na un neu ddau o'r hogia wrth gwrs yn
ddigon gwirion i gredu taw maint y mysyls oedd wedi achosi'r llewyg, ond
roedd y genod yn gallach na hynny!

Gyda llaw, diolch am dy awgrym Geraint.

Rwan 'dw i am fynd i wneud rhywbeth am fy niffyg cyhyrau!





----- Original Message -----
From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
To: "John Puw" <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, May 13, 2004 11:01 AM
Subject: Re: multi-gym


> [log in to unmask]:
>
> >neu 'gampfa gryno' yn well fyth.
> >
> >"Dwi'n mynd i'r gampfa gryno" yn swnio'n fwy naturiol/debygol o gael ei
> >lefaru na "Dwi'n mynd i'r gryno-gampfa".
>
> Ond ydy "campfa" yn addas gan gofio mai peiriant ac nid lle sy dan sylw?
> Peiriant gwrthiant ( ai dyna beth yw "resistance machine" ? ) sy'n gallu
> cael ei ddefnyddio mewn mwy nag un ffordd i weithio grwpiau gwahanol o
> gyhyrau yw e. Maen nhw ar gael ar gyfer y cartref yn ogystal a'r gampfa.