Hwyrach fod y neges wnes i yrru 2 awr yn ôl wedi mynd ar goll. Rwyf wedi ymgynghori â Robyn Lewis a dyma oedd ei gyngor. Mae'n teimlo fod 'archiad' ychydig yn hen ffasiwn ac nad oes digon o rym i 'galwad'. 'Gorchymyn' yw'r cyfieithiad mae o yn ei ffafrio gan mai "an official form on which a demand is made" yw ystyr 'requisition' yn y cyswllt hwn. Byddai'n dderbyniol wedyn cyfieithu "You are required...." yng nghorff y ddogfen fel "Mae galw arnoch ...." neu "Gelwir arnoch .........." Ann