Yn anffodus, mae'r cleient yn credu y bydd angen gair gwahanol am 'requisition' i'r un am 'summons' (gwy^s): "The Criminal Justice Act has changed the wording now to 'Requistion' (sic), so we should use the word for Requisition as the 'summons' process is no longer to be used." Yn anffodus, dydy hyn ddim yn egluro beth yn union yw'r gwahaniaeth! Posibiliadau - Galwad (i ymddangos)? Rhybudd Gorchymyn Gwysiad - hwn yn addawol efallai, gan ei fod yn GPC: 'y weithred o wysio, gorchymyn (ysgrifenedig) i ymddangos mewn llys barn, etc.' (Ond mae yr un peth â gwy^s hyd y gwela i.) Os gall unrhyw un daflu goleuni ar y gwahaniaeth rhwng 'requisition' a 'summons' baswn yn ddiolchgar! Glenys