Diolch John - mi faswn i'n meddwl ei fod yr un peth, ond mi dria i gysylltu â'r client i holi a oes gwahaniaeth rhwng y 'requisition' yma a 'summons'.
Glenys
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Puw, John
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, May 07, 2004 10:21 AM
Subject: Re: requisition

Heb erioed ddod ar ei draws felly tydi ffrwyth profiad o ddim cymorth mae arna i ofn.
 
Gwy^s ydir'r gair arferol i orchymyn diffiynnydd (a thystion mewn rhai achosion) i ddod i'r llys.  Ydi'r cyd-destun yn caniatáu defnyddio 'gwy^s' tybed? 
John
 
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 07 May 2004 10:13
To: [log in to unmask]
Subject: requisition

Bet a John yn arbennig, ac unrhyw un arall sy dan amheuaeth!  Oes 'na derm y mae'r heddlu'n ei ddefnyddio am hwn?  Pennawd sy gen i, ar daflen sy'n mynd at ddiffynnydd yn cynnwys y cyhuddiad yn ei erbyn ac yn ei alw i ymddangos gerbron Llys Ynadon.  'Gorchymyn'?  Mae'n amlwg yn gryfach na 'Cais'!
Diolch am rannu ffrwyth eich profiad ...
Glenys

Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.


This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.