Print

Print


Diolch David - mae'r esboniad yn ddefnyddiol iawn, ond mae meddwl am
gyfieithiad yn anodd dros ben!  Dwi'n cytuno nad yw 'cau lonydd cefn' yn
addas erbyn hyn.  Beth am 'gloi llwybrau troed' neu 'gloi llwybrau cefn' ?

Catrin


----- Original Message ----- 
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, April 20, 2004 2:04 PM
Subject: Re: alley-gating schemes


Cododd 'alleygating' wrth i fi ddiweddaru cyfieithiad o gynllun gweithredu'r
Cynulliad, "Cartrefi Gwell i Bobl Cymru", sbel yn ôl, a bryd hynny awgrymodd
swyddogion yr adran tai y gallwn i gyfeirio at y cynlluniau fel hyn:

"cynlluniau peilot i gau lonydd cefn i'w cynnal gydag arian y Cynulliad
2003-04".

Erbyn hyn, mae adroddiad cymdeithasol y Cynulliad am 2004 sydd ar gael yma:

http://www.wales.gov.uk/themessocialdeprivation/content/soc-just-report-2004
-e.pdf

yn cynnwys y paragraff yma:

The Assembly is funding 5 pilot Alleygating schemes in some of the most
deprived areas. Alleygating involves the installation of lockable gates to
block
off alleyways thus reducing the incidence of burglary and nuisance
behaviour.
Residents are issued with keys as are local authority service providers, the
emergency services and public utilities. Each of the pilots will receive
£50,000
in 2003-04 and the areas to benefit are: Rhyl West; Castleland ward, Barry;
Ely, Cardiff; the Mount Estate, Milford Haven; and Caia Park, Wrexham.

ond allwn i dim gweld fersiwn Cymraeg o'r adroddiad, ac er bod yr esboniad
yma gyda ni erbyn hyn, dyw "cau lonydd cefn" ddim yn derm o fath yn y byd!


-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of catrin.alun
Sent: 20 April 2004 13:43
To: David Bullock
Subject: alley-gating schemes

cyd-destun - diogelwch cymunedol

Catrin