Print

Print


Ni chofiaf i mi weld, mewn cryn gyfnod
 o ymwneud â' r ddeddf, enghraifft o ddefnyddio ffurf luosog yn Saesneg ar 'stop & search'. Defnyddir 'powers of .....' a 'provisions of...' ( pwerau/darpariaethau?) yn aml. Mae 'searches' hefyd yn digwydd .
Credaf fod 'atal a chwilio' yn well na 'stopio a chwilio'. Y mae' n broses ag iddi reolau ffurfiol, ac nid oes dim o'i le mewn defnyddio 'iaith arbenigol' mewn cyd destun fel hwn yn hytrach na glynu at y defnydd cyffredin sathredig bob tro. Nid yw 'atal a chwilio' yn gymhleth, a phetai angen lluosog, gellid dweud 'ataliadau/chwiliadau'
 
Y mae hefyd y fath beth a 'strip search(es)'  Unrhyw gynigion?
 
Bryn

        	
---------------------------------
  Yahoo! Messenger - Communicate instantly..."Ping" your friends today! Download Messenger Now