Mae na gynsail hefyd i ddefnyddio terma 'disgrifiadol' yn Gymraeg mewn petha fel 'rhoi dwr i'r bloda' (gas gin i 'dyfrhau' a 'tynnu llwch'. I'm tyb i peth Seisnig ydi tria gneud berfau annaturiol o enwa - mae'n gydnaws â'r Saesneg ond nid â'r Gymraeg. Mynd am y 'petha' faswn inna hefyd. Annes