Na - ddrwg gennai - heb glywed am y cynllun. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Glenys M Roberts Sent: 05 March 2004 16:02 To: [log in to unmask] Subject: Re: mild learning difficulties Mair - rhag ofn eich bod yn dal yna - wyddoch chi am gynllun o'r enw 'Right to Read' ac a oes ganddo enw Cymraeg? Glenys ----- Original Message ----- From: "Mair Edwards" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, March 05, 2004 3:44 PM Subject: Re: mild learning difficulties Oes - mae gwahaniaeth rhwng mild a moderate. Fel arfer mae mild yn cyfeirio at blant a phobl gyda IQ rhwng tua 55 i 70. Mae moderate yn cyfeirio at blant a phobl gyda IQ rhwng tua 35 i 55. Fel arfer mae IQ cyffredin rhwng 85 - 115 - (a pawb sydd yn cyfrannu i'r grwp yma siwr o fod a IQ dros 130!!!) O ran effaith ymarferol - mae plant gyda IQ o dan tua 70 â phroblemau eithaf dwys o ran gallu academaidd - ac angen cefnogaeth sylweddol os ydynt yn mynychu ysgol prif-lif. Fel oedolion mae pobl yn y categori yma angen rhywfaint o gefnogaeth o fewn y gymuned (ac eto yn aml yn ymdopi'n rhyfeddol heb gefnogaeth o'r fath) Mae plant gyda IQ o dan tua 55 bron yn ddieithriad mewn uned arbennig - a fel oedolion angen cefnogaeth gyson - gan gynnwys byw mewn cartrefi arbennig. Gobeithio bod hyn o gymorth! Mair -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Glenys M. Roberts Sent: 05 March 2004 11:58 To: [log in to unmask] Subject: Re: mild learning difficulties Ie, ond fel yr awgrymais yn fy neges wreiddiol, sut mae gwahaniaethu felly rhwng 'mild' a 'moderate'? Fel John, rwy'n teimlo bod gwahaniaeth, ond dydw i ddim yn arbenigwr yn y maes. Gan fod y Termiadur yn rhoi 'anabledd dysgu ysgafn' am 'mild learning disability', mae'n siw^r y byddai'n saff rhoi 'anawsterau dysgu ysgafn' am 'mild learning difficulties'. Diolch Glenys