Print

Print


Oes - mae gwahaniaeth rhwng mild a moderate.

Fel arfer mae mild yn cyfeirio at blant a phobl gyda IQ rhwng tua 55 i 70.
Mae moderate yn cyfeirio at blant a phobl gyda IQ rhwng tua 35 i 55.
Fel arfer mae IQ cyffredin rhwng 85 - 115 - (a pawb sydd yn cyfrannu i'r
grwp yma siwr o fod a IQ dros 130!!!)


O ran effaith ymarferol - mae plant gyda IQ o dan tua 70 â phroblemau eithaf
dwys o ran gallu academaidd - ac angen cefnogaeth sylweddol os ydynt yn
mynychu ysgol prif-lif. Fel oedolion mae pobl yn y categori yma angen
rhywfaint o gefnogaeth o fewn y gymuned (ac eto yn aml yn ymdopi'n rhyfeddol
heb gefnogaeth o'r fath)

Mae plant gyda IQ o dan tua 55 bron yn ddieithriad mewn uned arbennig - a
fel oedolion angen cefnogaeth gyson - gan gynnwys byw mewn cartrefi
arbennig.

Gobeithio bod hyn o gymorth!

Mair

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Glenys M. Roberts
Sent: 05 March 2004 11:58
To: [log in to unmask]
Subject: Re: mild learning difficulties

Ie, ond fel yr awgrymais yn fy neges wreiddiol, sut mae gwahaniaethu felly
rhwng 'mild' a 'moderate'?  Fel John, rwy'n teimlo bod gwahaniaeth, ond
dydw i ddim yn arbenigwr yn y maes.  Gan fod y Termiadur yn rhoi 'anabledd
dysgu ysgafn' am 'mild learning disability', mae'n siw^r y byddai'n saff
rhoi 'anawsterau dysgu ysgafn' am 'mild learning difficulties'.
Diolch
Glenys