Mae 'na dros 8000 'Branwyn' ar google - ond dim ond tua 500 'Berwen'. Wel, meddwl y basech chi'n hoffi gwybod ... pnawn Gwener ac ati! ----- Original Message ----- From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, March 05, 2004 3:26 PM Subject: Re: Daffyd Wrth wylio rhaglen ar archaeoleg Ynysoedd Orkney rai wythnosau'n ôl, gwelais gyfweliad ag archaeolegyddes (!) o'r enw Olwyn rhywbeth neu'i gilydd. Es i edrych ar y we, ac yn wir i chi, Olwyn yw ei henw cyntaf! Os ewch i wefan www.britarch.ac.uk/ba/ba7/ba7book.html , fe welwch y frawddeg: 'Olwyn Owen is an Inspector of Ancient Monuments at Historic Scotland'. Rhyfedd fel mae'r olwyn yn troi ... Berwyn ----- Original Message ----- From: "Dwynwen Berry" <[log in to unmask]> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]> Sent: Friday, March 05, 2004 10:20 AM Subject: Re: Daffyd Mae 'na sawl cam-ddefnydd o enwau Cymraeg dwi wedi sylwi arnynt - e.e. yr enw OLWYN ar ferch !! A dwi ddim yn gweld be sy gan y Daffyds i gwyno amdano - o leia mae'r cam sillafiad/ ynganiad yn gyson ! Dwi wedi dioddef sawl camynganiad difyr - o Dinwen i Deinwen i Doinwen ond y gorau un oedd Dwindling! Dwynwen. ----- Original Message ----- From: Catrin Alun <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, March 05, 2004 9:17 AM Subject: Re: Daffyd Diolch David - gret! Roedd 'duck tape' wedi bod yn broblem i mi - pam 'duck'? Wel, dwi'n gwybod rwan! Catrin ----- Original Message ----- From: "David Bullock" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, March 05, 2004 8:58 AM Subject: Re: Daffyd Fe glywes i fachgen tua 8-10 oed o rywle yn Lloegr yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth ffôn ar raglen deledu yn ddiweddar. 'Daffyd' oedd enw hwnnw yn ôl ynganiad y cyflwynydd, a 'Daffyd' oedd ar y sgrin hefyd. Ydy 'Daffyd' wedi dilyn Rhian dros y ffin fel enw bedydd? (Gyda llaw, rwy wedi gweld 'Rhianne' ar sgrin deledu cyn hyn hefyd.) Beth bynnag, esgus yw'r sylwadau uchod dros annog pawb i gael pip ar http://www.yourdictionary.com/library/mispron.html sef rhestr o'r can gair sy'n cael eu camynganu amlaf yng ngwlad George Bush. Mae yna glasuron yn eu plith, ac rwy'n hoff iawn o 'old timer's disease' a 'doggy dog world' yn arbennig.