Tybed all rhywun helpu gyda hyn? Mae'n enw ar gynllun newydd oriau gwaith hyblyg sy'n amcanu i "... allow you an element of freedom and flexibility in arranging your working day, in particular your start and finish times and variations in the length of your lunch break" Swnio'n braf. Mae'r cynllun yn rhoi mwy o reolaeth i'r gweithiwr na'r un blaenorol - llai o oruchwylio nag o'r blaen a dim angen clocio i mewn, a dyna pam y ceir y chwarae ar eiriau. Dwi'n anobeithiol efo pethau fel hyn, felly byddwn yn ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth, waeth pa mor wirion! Diolch Elin