Berwyn, Diolch. Efallai yn wir, ond rwy'n wirioneddol gredu fod na rywbeth i'w ddysgu fan hyn. Dyma gychwyn e-bost arall, a dderbyniais ond ychydig eiliadau yn ol, oddiwrth (Sais) yn Sir Gaerfyrddin, o ganlyniad i e-bost anfonais ato. Dieithryn hollol, tan heddiw: "Dear Daffyd, Many thanks for your note. Last Summer, trying out various modifications of..." ac ymlaen am faterion gwyddonol. Anfonwyd y neges wreiddiol gan Dafydd... cyfeiriwyd yr ateb gan y sustem at Dafydd... ond hefo Daffyd mae'r dyn yn cysylltu. Mae'r peth yn anhygoel. 25 mlynedd, 100 ebost y dydd, 10% ohonynt at Daffyd...mae'n rhaid fod gan rhyw ieithydd yn rhywle esboniad!