Sori, newydd ddeall pam awgrymodd Gwynallt ‘camddefnyddio’ – sef er mwyn hepgor ‘a ddelir a llaw’ a chyfleu’r ffaith bod y ffôn yn nwylo’r sawl sy’n ei defnyddio yn hytrach nag mewn peth dal ffôn a bod hynny’n gyfystyr â ‘chamddefnyddio’ – sori Gwynallt, fues i erioed yn un da am feddwl ‘yn ochrol’! Ond rwy’n dal yn meddwl y byddai ‘camddefnyddio’ yn rhoi pob math o syniadau ym meddyliau pobl, e.e. y dadlau sydd rhwng gŵr a gwraig pan fo’r naill yn dweud ‘chwith yn fan yma’ a’r llall newydd yrru heibio i’r cyfryw droad... Garmon Garmon Davies Ewrolingo +44 (0) 1656 668603 www.ewrolingo.co.uk -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garmon Davies Sent: 09 February 2004 17:53 To: [log in to unmask] Subject: Re: Handheld mobile phone Onid yw ‘defnyddio’ yn ddigon? Nid oes rhaid camddefnyddio’r ffôn wrth yrru (ac mae dyn yn arswydo wrth feddwl beth fyddai hynny!) i dorri’r gyfraith... Garmon Garmon Davies Ewrolingo +44 (0) 1656 668603 <http://www.ewrolingo.co.uk> www.ewrolingo.co.uk -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwynallt Bowen Sent: 09 February 2004 17:38 To: [log in to unmask] Subject: Re: Handheld mobile phone Cam ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru? Gwynallt