Print

Print


Mae yna rywfaint o dermau adeiladu ychwanegol i'w gweld yn ein rhestr 
ddrafft i ACCAC ar http://www.melin.bangor.ac.uk/accac/termau.asp.
Termau sydd wedi'u codi o bapurau arholiad a manylebau ydyn nhw, ond 
efallai fod yno rywbeth defnyddiol.

Delyth

Ysgrifennodd Elin Meek:
> Wedi methu cael gafael ar Liz Saville na Marian Jones ond roedd modd gadael
> neges i Marian Jones a gofynnais iddi fy ffonio os oes gwybodaeth ganddi am
> y Termau Trin Gwallt a'r Termau Adeiladwaith.
> 
> Rwy'n gweithio ar ddwy ddogfen sy'n ymwneud ag adeiladu a gosod brics ond
> rwy'n dod i ben yn syndod o dda ar hyn o bryd rhwng Geiriadur yr Academi a'r
> Termiadur, felly diolch eto am y rheiny.
> 
> Mae'n debyg, wedi chwilio'n ofer ar www.gwales.com , fod Termau Adeiladu
> allan o brint.  Yn ôl Dyfrig, ein llyfrwerthwr lleol, nid ydynt bellach yn
> nodi bod llyfr allan o brint, maent yn ei ddileu o'r rhestr yn gyfangwbl.
> Os nodir 'nid yw ar gael ar hyn o bryd' (neu rywbeth fel'na) mae'n golygu
> nad oes stoc ganddynt ond bod modd ei gael o rywle arall.
> 
> Rhof wybod os daw unrhyw wybodaeth bellach.
> Gyda diolch
> Elin


-- 
Delyth Prys
e-Gymraeg / e-Welsh
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru,Bangor /
University of Wales,Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
[log in to unmask]
+44 (0)1248 38 2800