Print

Print


Cyfeirio at gynnyrch gan gwmni Xpelair mae hwn.

 

Rwy’n cymryd bod ‘control’ yn cyfeirio at ‘movement’, ‘quality’ ac ‘air’.

 

Y broblem hyd y gwelaf i yw bod ‘air management’ ynddo’i hun yn golygu ’air movement control’ ac ‘air quality control’, oni bai fod gan rywun well syniad.

 

Mae ‘rheoli symudiad aer, ansawdd aer ac aer’ neu ‘rheoli symudiad aer, rheoli ansawdd aer a rheoli aer’ yn swnio’n rhyfedd i mi.

 

Ar y llaw arall tybed ai tri chynnyrch gwahanol sydd ar gael yma, sef bod y cwsmer yn gallu dewis rhwng ‘air movement control’ neu ‘air quality control’ neu gyfuniad o’r ddau, sef ‘air management control’ ac os felly efallai y byddai ‘rheoli symudiad aer, rheoli ansawdd aer a rheoli aer yn gyffredinol’ yn iawn...(?)

 

Diolch am unrhyw gymorth – dwi’n mynd allan am awyr iach!

 

Garmon

 

Garmon Davies

Ewrolingo

+44 (0) 1656 668603

www.ewrolingo.co.uk