Mae'n flin gen i orfod cychwyn wythnos newydd ar nodyn annifyr, ond rwy wedi derbyn nifer o gwynion yn sgil negeseuon gwirion at y cylch yn ystod yr wythnos ddiwethaf. A wnewch chi gofio os gwelwch yn dda *nad* yw aelodau prysur o'r cylch yn gwerthfawrogi cael y negeseuon di-fudd hyn yn llenwi eu blychau e-bost. Mae'r e-byst hefyd yn cael eu harchifo ar y we ac ar gael i bawb drwy'r byd eu darllen. Rwy wedi cysylltu'n bersonol gyda rhai sydd anwybyddu canllawiau'r cylch yn y gorffennol yn gofyn iddyn nhw gadw at y canllawiau. O hyn allan bydd unrhyw un sy'n trawmgwyddo'n ddifrifol yn cael eu diarddel o'r cylch ac yn colli eu haelodaeth. I'ch atgoffa o'r canllawiau: 1. wrth wneud ymholiad newydd rhowch y term dan sylw yn deitl i'r neges (mae hyn yn help i'w olrhain yn yr archif). 2. rhowch ddiffiniad o'r ystyr neu'r cyd-destun os medrwch chi,neu dywedwch yn glir nad ydych chi'n gwybod beth yw'r ystyr/cyd-destun. 3. peidiwch gyrru neges yn dweud 'diolch' wrth y cylch - os ydych chi'n dymuno diolch i rywrai, gyrrwch neges bersonol atyn hw. 4. os ydych chi'n penderfynu defnyddio term a gynigiwyd gallwch yrru neges at y cylch yn dweud beth oedd eich penderfyniad gan y bydd hynny'n helpu aelodau eraill. Ar nodyn mwy cadarnhaol, rydyn ni ym Mangor wedi bod yn cywain yr archif am dermau Technoleg Gwybodaeth wrth greu geiriadur newydd yn y maes hwnnw. Roedd nifer o'r trafodaethau yn werthfawr y tu hwnt, felly diolch i'r cyfranwyr hynny sy'n rhoi o'u hamser a'u harbenigedd i helpu gydag holiadau aelodau eraill. Delyth -- Delyth Prys e-Gymraeg / e-Welsh Canolfan Bedwyr Prifysgol Cymru,Bangor / University of Wales,Bangor Bangor Gwynedd LL57 2DG [log in to unmask] +44 (0)1248 38 2800