Wedi methu dod o hyd i unrhyw beth hyd yn hyn yn fy nghasgliad (anghyflawn!) o lyfrau emynau (Presbyteriaid, Annibynwyr, Anglicanwyr + "Caneuon Ffydd"). Pam mae'r llinell yn ymddangos? Ar gyfer arddangosfa o hen erydr a chelfi fferm o bosibl? Os felly, beth am linell o emyn arall (e.e.Yn dy law y mae f'amserau" sy'n mynd ymlaen "Ti sy'n rhoddi y tymhorau, Amser hau a chasglu'r grawn"), ynteu rhywbeth allan o'r "Aradr Goch" ynteu o Lyfr Du Caerfyrddin "Ereidr (sic) yn rhych, ych yng ngwedd". Os oes ychydig bach o ryddid, dw i'n siwr y cewch ddigon o awgrymiadau. Ann ----- Original Message ----- From: "Heledd Mitchell" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, February 02, 2004 11:48 AM Subject: 'We plough the fields and scatter...' A oes rhywun yn digwydd gwybod beth yw geiriau Cymraeg yr emyn uchod. A oes cyfieithiad o gwbl? Mae llinell gyntaf yr emyn yn enw ar arddangosfa yn Amgueddfa Ceredigion ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn am unrhyw gymorth, Hwyl, Heledd **************************************************************************** **** RHYBUDD: Mae'r wybodaeth sydd yn y neges E-Bost yma yn gyfrinachol ac mae'n bosib y bydd yn gyfreithiol freintiedig. Os nad y sawl a fydd yn darllen y neges yma yw'r sawl y bwriadwyd yr e-bost ar ei gyfer, fe'ch hysbysir drwy hyn y gwaherddir defnyddio'r neges, ei rhannu, ei dosbarthu neu ei hatgynhyrchu gennych chi eich hun neu ar eich anogaeth. Os cawsoch y neges yma trwy amryfusedd, a fyddech cystal rhoi gwybod i ni ar unwaith a dychwelyd y neges wreiddiol. Nid yw'r wybodaeth sydd yn y neges yma o reidrwydd yn cynrychioli polisi a threfn weithredu'r Cyngor. Os cewch gan y Cyngor hwn ddeunydd heb i chi ofyn amdano neu ddeunydd tramgwyddus rhowch wybod i ni ar unwaith. Diolch **************************************************************************** **** CAUTION: The information in this E-Mail message is confidential and may be legally privileged. If the reader of this message is not the intended recipient you are hereby notified that any use, dissemination, distribution or reproduction of this message by you or at your instigation is prohibited. If you have received this message in error please notify us immediately and return the original message to us. The information in this message does not necessarily represent Council policy or procedure. In the instance of receiving unsolicited or offensive mail from this Council please notify us immediately. Where information of a sensitive or highly confidential nature is to be communicated, you will be informed that this information will be sent to you in writing and not by E-Mail, unless secure arrangements are made. Thank you. **************************************************************************** **** Message has been scanned by Webshield Message has been scanned by Webshield