Sori, 'roeddwn wedi sgipio dros ymateb John rywsut, a heb ei weld cyn ymateb i sylw Helen - felly dim awydd bod yn ymosodol. Er hynny, cytunaf efo Garmon (cyllell fara). Os dywedwn - "Peidiwch a threiglo, bydd y werin gaws yn ei ddeall yn well heb treiglad a bydd yn swnio'n fwy naturiol iddyn nhw" well inni roi'r ffidl yn y to. Mae'r werin yn fwy call na hynny. Os nad ydynt yn medru deall "rhaw faw" fyddan nhw ddim yn darllen y fersiwn Cymraeg - ond mai ambell un yn siarad Cymraeg yn well na ni. Ann ----- Original Message ----- From: "John Williams cyfieithydd YMLL" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, February 13, 2004 11:21 AM Subject: POOP SCOOP > Dwi'n meddwl y dylen ni gael pleidlais ar hyn. > > Nid rhaw wedi ei gwneud o faw sydd yma ond rhaw at godi baw. Perthynas enidol sydd rhwng y ddau air a does dim angen trin baw yn ansoddeiriol - er y gellid gwneud wrth gwrs, ond i beeth? Os yw rhaw baw yn cyfleu hanfod y teclyn i nifer o Gymry Cymraeg - ac er mai wedi dysgu Cymraeg rydw i, dwi'n siwr mai rhaw baw a ffafrient -pa raid ei newid? > > Pleidlais? > > > ________________________________________________________________ > Sent via the WCBC Schools Email system at ysgolmorganllwyd.wrexham.sch.uk > > > > > > * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * > > This e-mail message and any attachments are confidential and intended solely for > the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If you are not > the intended recipient and have received this e-mail in error, any use, dissemination, > forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are requested to > contact the sender and delete the material from any computer. Opinions, conclusions > and other information in this message that do not relate to the official business of > Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor endorsed by it. > > Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol ac fe'i > bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad chi yw'r > derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, > gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i > chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd o bob > cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam > yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y neges hon nad > yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol. > > * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * > > > Message has been scanned by Webshield > > > Message has been scanned by Webshield