Mae'n beryg taw gyda'r cysylltiad o'r cyfieirad ar neges Audrey mae'r broblem.  Llwyddais i gysylltu o wefan newyddion BBC Cymru (http://news.bbc.co.uk/ ac yna clicio ar Newyddion) ac wedi ychwanegu'r cyfeiriad i'r ffefrynnau.  Rwyf eisoes wedi cael cymorth ac yn gallu llywio o'i gwmpas ac ail gysylltu heb unrhyw drafferth.  Chyffin Grêt ydi'r dywediad, os dwi'n gywir.

-----Original Message-----
From: Puw, John
Sent: 16 January 2004 08:21
To: 'Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary'
Subject: RE: TermCymru


Erbyn y bore 'ma, mae'r neges yn dweud fod y wefan yn cael ei gwarchod ac i'r cysylltiad gael ei wrthod.  Byddai ffeil PDF yn sicr yn well na hyn

-----Original Message-----
From: Garmon Davies [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 15 January 2004 17:15
To: [log in to unmask]
Subject: Re: TermCymru


Llwyddais i unwaith hefyd a methu wedyn. Bydd yn adnodd defnyddiol rwy'n siŵr ond trueni nad yw ar gael ar ffurf rhestr y gellir ei llwytho i lawr, yn hytrach na chronfa ddata y mae'n rhaid mynd at wefan y Cynulliad er mwyn chwilio ynddi.

Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg

Sent: 15 January 2004 17:10
To: [log in to unmask]
Subject: Re: TermCymru

Llwyddais i gysylltu unwaith ac wedyn cael 'this page cannot be displayed' bob tro arall.  Mae'n rhaid bod holl gyfieithwyr Cymru wedi ymweld â'r wefan y prynhawn 'ma.


----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, January 15, 2004 5:04 PM
Subject: Re: TermCymru


> > Er gwybodaeth i aelodau'r Cylch Trafod Termau, mae TermCymru, cronfa
> > derminoleg Gwasanaeth Cyfieithu'r Cynulliad, bellach ar gael ar y we
> > yn www.termcymru.cymru.gov.uk
>
> Connection refused
>
> Waw, wedi ei 'dermdotio' - oedd e mor boblogaidd a hynny?


---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.561 / Virus Database: 353 - Release Date: 13/01/2004


Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.


This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.