anfonaf yr ymholiad hwn ar ran Palmer Parry
----- Original Message -----
Sent: Tuesday, January 06, 2004 12:45 PM
Subject: Termau
Mewn dogfen dra thechnegol yn ymwneud ag
anhwylderau'r llygad, defnyddiaf y termau canlynol:
cornea - cornea (nid "cornbilen" na
chornchwiglen!)
blepharitis - bleffaritis
marginal keratitis - ceratitis ymylol (mae'r
rhagddodiad kerato- yn cyfeirio at y cornea)
bulbar - bylbaidd (nid
"oddfog")
etc.
Mae'r broblem ddyrys yn codi oherwydd
defnyddio "cyfbilen" am "conjunctiva", a'r arferiad o ddibynnu ar "llid y . . ."
pan na ellir gosod "-itis" yn dwt ar ddiwedd y gair i ddynodi cyflwr
patholegol.
Felly, yr hyn sydd gan Bruce am
"keratoconjunctivitis" yw naill ai
(i) "llid y gornbilen a'r gyfbilen"
neu (ii) "cornbilenwst a chyfbilenwst" (sy'n
swnio fel enwau dau gawr!)
Go brin y gallaf ddefnyddio'r naill na'r llall mewn
dogfen sy'n gwahaniaethu'n gyson rhwng y canlynol:
atopic keratoconjunctivitis
vernal keratoconjunctivitis
adenoviral keratoconjunctivitis
Pe bai gennyf air Cymraeg am "conjunctiva" y gellid
taro "-itis" ar ei ôl, byddai'r broblem wedi ei datrys.
A oes gwell ateb na gadael "keratoconjunctivitis"
fel y mae yn yr enghreifftiau uchod? Gallaf wneud hynny gyda
"keratoconjunctivitis sicca" ar y sail ei fod yn derm Groeg-Lladin neu
'ryngwladol', ond mae'r enghreifftiau eraill uchod yn swnio fel Saesneg yn
hytrach na rhyngwladol.
Term arall yr wyf wedi ei adael fel y mae hyd yma
yw "tarsorrhaphy", sef y dechneg o wnïo'r amrannau ynghlwm wrth ei gilydd rhag
i'r dagrau sychu'n rhy handi! Beth ddylid ei wneud hefo hwn yn
Gymraeg?
A oes gan rhywun syniad neu awgrym ar frys?
(Dedlein bore Gwener!)