anfonaf yr ymholiad hwn ar ran Palmer Parry ----- Original Message ----- From: Palmer Parry To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, January 06, 2004 12:45 PM Subject: Termau Mewn dogfen dra thechnegol yn ymwneud ag anhwylderau'r llygad, defnyddiaf y termau canlynol: cornea - cornea (nid "cornbilen" na chornchwiglen!) blepharitis - bleffaritis marginal keratitis - ceratitis ymylol (mae'r rhagddodiad kerato- yn cyfeirio at y cornea) bulbar - bylbaidd (nid "oddfog") etc. Mae'r broblem ddyrys yn codi oherwydd defnyddio "cyfbilen" am "conjunctiva", a'r arferiad o ddibynnu ar "llid y . . ." pan na ellir gosod "-itis" yn dwt ar ddiwedd y gair i ddynodi cyflwr patholegol. Felly, yr hyn sydd gan Bruce am "keratoconjunctivitis" yw naill ai (i) "llid y gornbilen a'r gyfbilen" neu (ii) "cornbilenwst a chyfbilenwst" (sy'n swnio fel enwau dau gawr!) Go brin y gallaf ddefnyddio'r naill na'r llall mewn dogfen sy'n gwahaniaethu'n gyson rhwng y canlynol: atopic keratoconjunctivitis vernal keratoconjunctivitis adenoviral keratoconjunctivitis Pe bai gennyf air Cymraeg am "conjunctiva" y gellid taro "-itis" ar ei ôl, byddai'r broblem wedi ei datrys. A oes gwell ateb na gadael "keratoconjunctivitis" fel y mae yn yr enghreifftiau uchod? Gallaf wneud hynny gyda "keratoconjunctivitis sicca" ar y sail ei fod yn derm Groeg-Lladin neu 'ryngwladol', ond mae'r enghreifftiau eraill uchod yn swnio fel Saesneg yn hytrach na rhyngwladol. Term arall yr wyf wedi ei adael fel y mae hyd yma yw "tarsorrhaphy", sef y dechneg o wnïo'r amrannau ynghlwm wrth ei gilydd rhag i'r dagrau sychu'n rhy handi! Beth ddylid ei wneud hefo hwn yn Gymraeg? A oes gan rhywun syniad neu awgrym ar frys? (Dedlein bore Gwener!)