O ran diddordeb academaidd yn unig, pryd dechreuodd Cen Williams sôn am drawsieithu? Roedd Gareth Edwards yn defnyddio'r dull a'r enw yma pan wnes i ryw hanner cwrs o ymarfer dysgu gydag e yn Aberystwyth yn 1985. (Fel dwedes i, pwynt academaidd yn unig yw hyn, a dim byd i wneud â dangos gymaint ar y blaen i Fangor yw Aber.) ----- Original Message ----- From: "D.Prys" <[log in to unmask]> To: "David Bullock" <[log in to unmask]> Sent: Thursday, January 08, 2004 2:34 PM Subject: Re: trawsieithu Term a fathwyd gan Dr. Cen Williams yw 'trawsieithu' i ddisgrifio derbyn gwybodaeth mewn un iaith a'i defnyddio mewn iaith arall e.e. cael gwybodaeth mewn llyfr Saesneg a'i defnyddio fel sail i gyflwyniad llafar Cymraeg. Y term Saesneg cyfatebol yw 'translanguaging' - yr Athro Colin Baker sy'n gyfrifol am y bathiad hwnnw. Delyth Ysgrifennodd Alison Reed(Welsh Translator): > Stori Fer a Thrawsieithu - Rhan o faes llafur Cymraeg Ail Iaith Cyfnod > Allweddol 5. > > Unrhyw awgrymiadau plîs? -- Delyth Prys e-Gymraeg / e-Welsh Canolfan Bedwyr Prifysgol Cymru,Bangor / University of Wales,Bangor Bangor Gwynedd LL57 2DG [log in to unmask] +44 (0)1248 38 2800