Diolch Leslie am fanylder eich ateb - mae cyd-destun y darn yn cyfeirio'n benodol at Wyl Mabsant ym Mhenrhyn Gwyr a oedd yn enwog am faint o'r pwdin hwn a fwytawyd, Hywel -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of staffdld Sent: 30 January 2004 12:23 To: [log in to unmask] Subject: Re: Bonny Clobby Dyma ymateb i ymholiad "Hywel" ynghylch "Bonny Clobby" ("math o bwdin Dolig oedd yn cael ei fwyta mewn gwyliau mabsant ers talwm"). Byddwch oddefgar, bawb, am nad wyf yn 'perthyn go-iawn' i'ch cymdeithas o gyfieithwyr proffesiynol; ac, ar wahan i drafod yr enw "St Gwynno Forest" gyda Berwyn rai dyddiau nôl, dyma'm cyfraniad cyntaf i'ch stôr o wybodaeth ! Wrth gwrs, rhaid nodi nad yw'r Nadolig a gwyliau mabsant o angenrheidrwydd yn gyfystyr â'i gilydd. Caf fy hun yn tybied, felly, p'un a yw "pwdin Dolig" yn ddisgrifiad priodol o rywbeth a ddarperid mewn gwyliau mabsant ar draws y wlad ac ar hyd y flwyddyn (gan gynnwys yr haf a'r hydref) yn ol patrwm amrywiol iawn o fabsanta lleol ? Yr argraff a gaf oddi wrth yr enw "Bonny Clobby" (sy'n swnio braidd yn Eingl/ Albanaidd i mi) yw taw pwdin at wyl(iau) oddi allan i Gymru oedd hwn: taw nid rhywbeth o ardaloedd Seisnigedig hanesyddol Cymru (De Penfro, Bro Gwyr, Bro Morgannwf isaf, parthau mwyaf dwyreiniol Mynwy a Maesyfed) oedd. Nid yw Hywel yn dweud hyn yn glir, ond dyna'r argraff a geir. Ai cywir hyn ? A beth am arwyddocâd yr enw ? Ai "da/llesol/gwych" yw "Bonny" ? Ac ai llurguniad o "clobber" ("stwff/deunydd/ defnyddiau") yw "Clobby" ? Hynny yw "Bonny Clobby" = "Stwff Da" [at bwdin] - (gan obeithio nad oedd yn tagu!). A beth am gyfatebiaeth yn Gymraeg ? Ceir digon o sôn yng ngwahanol hanesion plwyf Cymru am baratoi a darparu pastai at fabsant neu wyl leol. Diau bod enghreifftiau ym mhob ardal. Yn yr ardal hon (gogledd Cwm Cynon), mae David Davies (Dewi Cynon), awdur Hanes Plwyf Penderyn (1905 a 1924) yn gwahaniaethu rhwng y "Gwyl Mabsant...(a fu) mewn bri gynt...(ac a) ddechreuai, fel rheol, yr wythnos gyntaf o Dachwedd (ac) a pharheuai am bythefnos...(cyn dod i ben) tua...1866" (1905, tt.92-3) ar y naill law, a Gwyl Gynog - sef gwyl nawddsant penodol y plwyf - a gynhelid "ar y 7fed Hydref..." (t.92) ar y llaw arall. Yn y mabsant, dywed Dewi Cynon y "Darperid Pastai ar yr Wyl"; am Wyl Gynog, sut bynnag, dywed Dewi Cynon fel a ganlyn: "Yn yr hwyr cynnelid gwledd fawreddog... Yr ymborth a arferid ddarparu ar yr wyl hon oedd math o bwdin a elwid "Y Whippod", yn gyfansoddedig o fara, raisins, curants, a siwgr, yn gymmysg, wedi eu berwi mewn llaeth. Byddai y teuluoedd o'r dosbarth uchaf drwy y lle yn darparu digon o "Whippod" ar gyfer y nos hono. Y diweddaf a gadwodd yr arferiad i fyny...oedd y diweddar Mrs. Catherine Jones o'r Ysguborfawr, tua'r flwyddyn 1840 neu 1850" (literatim). Dyma, felly, enghraifft o bwdin-gwyl ag enw Cymraeg (o fath) a baratöwyd yn benodol at wyl nawddsant lleol (er bod hanesydd y plwyf yn gwahaniaethu rhwng yr wyl honno a math arall o wyl a gynhelid fis yn ddiweddarach ac a elwid yn "fabsant" ganddo). Cwestiwn diddorol sy'n codi, wrth gwrs, yw tarddiad ieithyddol yr enw "whippod". Ond mater i ieithegwyr, nid hanesydd ieithgar, i ddyfalu yn ei gylch yw hwnnw ! Leslie Davies, Aberdâr. >===== Original Message From Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> ===== >Math o bwdin Dolig a oedd yn cael ei fwyta mewn gwyliau mabsant erstalwm. >A oes rhywun yn gwybod a oes enw Cymraeg arno? > >Diolch >Hywel PLEASE NOTE: THE ABOVE MESSAGE WAS RECEIVED FROM THE INTERNET. On entering the GSI, this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSI) virus scanning service supplied exclusively by Energis Communications in partnership with MessageLabs. GSI users see http://www.gsi.gov.uk/main/notices/information/gsi-003-2002.pdf for further details. In case of problems, please call your organisational IT helpdesk. The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in partnership with MessageLabs. On leaving the GSi this email was certified virus-free