Ysgrifennodd Gwen Rice: > A oes enw swyddogol? > Diolch > Gwen Cefais fy magu nid nepell oddi yno, ac rwyf wedi clywed "Llwynbedw". Yn sicr, ceir 'Llwynbedw Gardens' ger croesffordd adnabyddus Birchgrove. Yn anffodus, nid yw fy nghopi o 'Life on the Heath' gan Gareth Williams yn y swyddfa gyda fi ar y funud!!! Mae hwnnw'n ffynhonnell wych o wybodaeth am enwau lleoedd yn yr ardal honno a fu, ar un adeg, yn ehangder mawr o gaeau heb fawr ddim yno ond ambell ffermdy ac, yn ddiweddarach, gae rasio ceffylau!!! Helen -- H.K.Smith (Helen) [log in to unmask] (Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask] * * * * * * * * * Cathod/Cats * * Pianos * * *