Print

Print

MessageDigon teg. Y canllaw pennaf, mae'n debyg, yw peidio â chamarwain neb. A go brin y bydd 'Freedom of Information Officer' a 'Freedom of Information Compliance Officer' yn yr un awdurdod.

Berwyn
  ----- Original Message ----- 
  From: Garmon Davies 
  To: Berwyn Prys Jones 
  Sent: Friday, December 19, 2003 11:53 PM
  Subject: Re: Freedom of Information Compliance Officer

  Er gwybodaeth, 'Swyddog Rhyddid Gwybodaeth' ddefnyddiais i'n y diwedd. Dydw i ddim yn honni bod awgrym Berwyn yn anghywir o bell ffordd, ac rwy'n cytuno bod termau biwrocratiaeth yn aml yr un mor ddisynnwyr ag yw biwrocratiaeth ei hun. Fy nheimlad gwreiddiol oedd nad yw 'Swyddog Cydymffurfio Rhyddid Gwybodaeth', er mor chwithig yr oedd yn swnio, yn 'anghywir' fel y cyfryw - os ydyw'n anghywir yna gellid dweud bod y Saesneg a nifer o dermau eraill yn Gymraeg ac yn Saesneg yr un mor anghywir (gweler y cyfeiriadau yn neges Berwyn). Er fy mod yn dal o'r farn nad yw'n anghywir, rwy'n cytuno â dadl Glenys bod cyfle yma i osgoi defnyddio term chwithig gan ei bod yn iawn hepgor y gair 'cydymffurfio'. Nid yw ychwanegu na hepgor 'cydymffurfio' yn newid yr ystyr mewn gwirionedd. Fe dynnodd John sylw at y ffaith nad ydym yn dweud 'Swyddog Cydymffurfio Iechyd a Diogelwch' er mai sicrhau bod gweithwyr / sefydliadau yn cydymffurfio â Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch yw ei waith. Mae enghreifftiau o 'Health and Safety Compliance Officer' ar y We ond nid yw gwaith y rhain i'w weld yn wahanol i waith 'Health and Safety Officer'. Yn yr un modd, nid yw gwaith 'Freedom of Information Officer' yn wahanol i waith 'Freedom of Information Compliance Officer'. Felly, am fod hepgor 'cydymffurfio' yn gwneud i'r gair swnio'n well a chan nad oes gwahaniaeth yn yr ystyr wedyn, rwyf wedi defnyddio 'Swyddog Rhyddid Gwybodaeth'.

  Garmon

  Garmon Davies

  Ewrolingo

  +44 (0) 1656 668603

  www.ewrolingo.co.uk

  -----Original Message-----
  From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Glenys M Roberts
  Sent: 19 December 2003 16:01
  To: [log in to unmask]
  Subject: Re: Freedom of Information Compliance Officer

  Dyna oedd pwynt fy neges wreiddiol.  Os oes modd darbwyllo'r cleient y daw pawb i dderbyn mai 'Swyddog i sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth' yw ystyr 'Swyddog Rhyddid Gwybodaeth', yna mae gennych deitl bach digon cryno.  Mae arna i ofn bod 'Swyddog Cydymffurfio Rhyddid Gwybodaeth' yn swnio braidd yn chwithig.  

    ----- Original Message ----- 

    From: Berwyn Jones 

    To: [log in to unmask] 

    Sent: Friday, December 19, 2003 12:28 PM

    Subject: Re: Freedom of Information Compliance Officer

    Wrth gyfieithu teitlau swyddogion, bydda i'n tueddu i hoffi'r rhai mwyaf cryno gan ddadlau mai'r rheiny y mae'r swyddogion eu hunain debycaf o'u defnyddio, hyd yn oed os nad ydynt yn gyfieithiadau manwl-gywir.

    Cymerwch chi'r teitl 'prif weithredwr' - anaml iawn y digwydd mai ef/hi yw'r prif un sy'n gweithredu. Ewythr i mi soniodd am 'brif weithredwr' gan ebychu 'Twt! Fe sy'n gweithredu leia yn y lle 'na!'

    A faint ohonon ni sy'n poeni nad yw ymadrodd fel 'caniatâd cynllunio' yn gwneud sens mewn gwirionedd? Wnaeth y peth ddim croesi fy meddwl i tan i Aled Rhys Wiliam ac Urien Wiliam godi'r mater yn un o'n cynadleddau flynyddoedd maith yn ôl.

    Rôn i'n gweld eu pwynt, ond un o dalentau cyfrin biwrocratiaith yw gwneud i eiriau olygu 'r hyn y mae hi am iddyn nhw'i olygu (e.e. this door is alarmed, individual needs ac ati!).

    Berwyn

      ----- Original Message ----- 

      From: Puw, John 

      To: Berwyn Prys Jones 

      Sent: Friday, December 19, 2003 12:07 PM

      Subject: Re: Freedom of Information Compliance Officer

      Swyddog Iechyd a Diogelwch

      Swyddog Rhyddid Gwybodaeth

      dim prob

      Ond Swyddog Cydymffurfio Iechyd Diogelwch - ? ! 

      Eto, byddai'n rhaid cynnwys y Ddeddf mae'n beryg!

        -----Original Message-----
        From: Garmon Davies [mailto:[log in to unmask]] 
        Sent: 19 December 2003 12:01
        To: [log in to unmask]
        Subject: Re: Freedom of Information Compliance Officer

        Yn fy marn i, pe baem yn rhoi 'â' yna byddai angen ''r Ddeddf' hefyd - nid cydymffurfio â Rhyddid Gwybodaeth y mae'r swyddog ond â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Gellir ei ddarllen fel "Swyddog sy'n gyfrifol am sicrhau bod gweithwyr yn cydymffurfio â deddfwriaeth ym maes rhyddid gwybodaeth" yn yr un modd â Swyddog Iechyd a Diogelwch - nid ydym yn ystyried bod swyddog o'r math hwn yn 'perthyn' i Iechyd a Diogelwch ond yn hytrach ei fod yn gyfrifol am sicrhau bod gweithwyr yn cydymffurfio â deddfwriaeth ym maes iechyd a diogelwch. Dyna sut yr wyf fi'n ei gweld hi beth bynnag...

        Garmon

        Garmon Davies

        Ewrolingo

        +44 (0) 1656 668603

        www.ewrolingo.co.uk

        -----Original Message-----
        From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb
        Sent: 19 December 2003 12:03
        To: [log in to unmask]
        Subject: Re: Freedom of Information Compliance Officer

        Dim ond gofyn odw i, ondifa, ond onid oes angen 'â' ar ôl y berfenw? Neu fel arall mae'n awgrymu bod y swyddog cydymffurfio rhywsut yn eiddo i ryddid gwybodaeth

          ----- Original Message ----- 

          From: Garmon Davies 

          To: [log in to unmask] 

          Sent: Friday, December 19, 2003 10:50 AM

          Subject: Re: Freedom of Information Compliance Officer

          Diolch yn fawr iawn i Berwyn, Glenys a John. Mae'n well gen innau'r berfenw. Doeddwn i ddim yn gwbl fodlon ar 'cydymffurfiaeth' - am fy mod yn ei gysylltu â chrefydd o bosib (sylwais mai 'cydymffurfiad' y mae'r Termiadur yn ei gynnig am 'compliance' beth bynnag). Swyddog Cydymffurfio Rhyddid Gwybodaeth amdani felly. Rwyf am hepgor 'â'r Ddeddf' gan mai dyma a wneir yn y Saesneg - a rhag ofn y bydd y boi bach neu'r eneth fach (neu fawr) am roi arwydd ar ei d(d)rws! 

          Garmon 

          Garmon Davies

          Ewrolingo

          +44 (0) 1656 668603

          www.ewrolingo.co.uk

          -----Original Message-----
          From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Puw, John
          Sent: 19 December 2003 10:36
          To: [log in to unmask]
          Subject: Re: Freedom of Information Compliance Officer

          Beth am Swyddog Sicrhau Cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth,

          Ydi mae o'n hir, ond yr unig gwestiwn fyddai gan Fawrthwr (wedi bod yn darllen am rhyw Beagle ar wefan newyddion y BBC) o'i ddarllen fyddai "Deddf Pwy"?

          Byddai ganddo lawer mwy o gwestiynau o ddarllen y teitl Saesneg.

          Wedi darllen neges Berwyn, byddai Swyddog Cydymffurfio â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn sganio'n well, ac yn fyrrach na'r cynnig uchod.

            -----Original Message-----
            From: Garmon Davies [mailto:[log in to unmask]] 
            Sent: 19 December 2003 10:26
            To: [log in to unmask]
            Subject: Freedom of Information Compliance Officer

            Wedi methu â dod o hyd i enghreifftiau o'r uchod yn Gymraeg. 

            'Swyddog Cydymffurfiaeth Rhyddid Gwybodaeth' yw'r mwyaf cryno yn amlwg. Mae'n swnio braidd yn lletchwith i mi am mai cyfres o enwau ydyw ond alla i ddim meddwl am unrhyw beth gwell heb iddo swnio fel paragraff mewn traethawd hir yn hytrach na theitl swydd, e.e. Swyddog â Chyfrifoldeb am Sicrhau Cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Oes teitl eisoes yn cael ei arfer neu oes gan rywun awgrym arall?

            Diolch am unrhyw oleuni.

            Garmon

            Garmon Davies

            Ewrolingo

            +44 (0) 1656 668603

            www.ewrolingo.co.uk

          Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru. 
          Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig. 
          Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, 
          dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda. 
          Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, 
          fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. 
          Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.

          This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
          The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged. 
          It is intended only for the person or entity named above. 
          If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system. 
          If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the 
          intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying 
          of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.