Y tro yma, nid gofyn beth yw hyn yn Gymraeg ydw i. Mae'r Adran Addysg a Sgiliau yn Whitehall yn mynd i redeg cynllun peilot, o dan yr enw yma, i weld sut hwyl gān nhw yn ymdopi ā cheisiadau ar-lein am fenthyciadau i fyfyrwyr. Maen nhw'n mynd i godi gwefan ddwyieithog, ac ron i'n meddwl defnyddio "Cyswllt Cyllid Myfyrwyr" i gyfateb i "Student Finance Direct" yn enw ar y cynllun. Unrhyw wrthwynebiad, neu unrhyw gynnig arall?