Mae trafodaeth fer am hyn yn yr archifau – cynigiwyd ‘myfyriwr ymsangol’. Mae gen innau gof i mi weld ‘myfyriwr ymsang’ neu ‘myfyriwr ymsangol’ yn rhywle arall ond rwy’n methu yn fy myw â chofio yn lle.
Garmon
-----Original
Message-----
From: Discussion of Welsh language
technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of David Bullock
Sent: 19 December 2003 11:04
To:
[log in to unmask]
Subject: Intercalating students
sef myfyrwyr sydd, beth bynnag fo'r rheswm, yn bwrw blwyddyn (neu gyfnod arall) i ffwrdd o'u coleg cartref neu eu prifysgol gartref. Gallan nhw fod yn astudio dros y môr, yn teithio am gyfnod, yn treulio amser ar leoliad mewn ysbyty ac ati.
'Rhyngosodol' yw 'intrecalary' yn y Termiadur Ysgol, ond oes gan y colegau ymadrodd parod?